Pobl ifanc
Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc 5 - 25 oed i hyrwyddo lles trwy gyfuniad o gefnogaeth cymheiriaid, gweithdai a chyrsiau, cefnogaeth 1:1 a chyfleoedd gwirfoddoli.
Platfform ar gyfer pobl ifanc
Nid oes angen diagnosis ar unrhyw un i gael mynediad i’n prosiectau, rydym yn gweithio gydag unrhyw un sy’n ei chael hi’n anodd. Credwn ei bod yn bwysig i bobl ifanc wybod, beth bynnag maen nhw’n ei wynebu, nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain nac ar wahân.
Credwn fod gan bob person ifanc gryfderau cynhenid. Cysylltu â’r cryfderau hyn yw lle mae ein gwaith yn cychwyn. Rydym yn gweithio gyda phobl 5 – 25 oed mewn ystod o leoliadau i hyrwyddo lles.
Mae ein prosiectau yn dod â phobl ifanc ynghyd fel y gallant gysylltu a rhannu eu profiadau ag eraill a allai fod yn wynebu heriau tebyg i’w rhai eu hunain. Nid ydym yn ceisio ‘trwsio’ pobl, rydym yn gwrando ac yn gweithio gyda phobl ifanc i ddod o hyd i ffyrdd a strategaethau newydd sy’n helpu i hyrwyddo eu hiechyd meddwl a’u lles.
-
Platfform i bobl ifanc
Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc 13-25 oed sy'n wynebu heriau gyda'u hiechyd meddwl. Mae ein prosiectau yn cynnig cyfuniad o raglenni lles, cefnogaeth cymheiriaid, gweithdai a chyrsiau, cefnogaeth 1:1 a chyfleoedd gwirfoddoli.
-
Yr Hangout
Mae'n lle i chi gwrdd â phobl eraill, cael cefnogaeth iechyd meddwl, dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli, a chymryd rhan mewn grwpiau a allai helpu i roi hwb i'ch lles. Mae'n addas i unrhyw un 11-18 oed.
-
Power Up
Prosiect lles pobl ifanc a gweithredu cymdeithasol yw Power Up, ar gyfer pobl ifanc 10-25 mlwydd oed sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
-
Wonderfest
Wonderfest yw ein gŵyl i bobl ifanc 13+ oed, rhieni a gweithwyr proffesiynol i gefnogi eu lles. Mae gennym amserlen orlawn o ddigwyddiadau, sesiynau a gweithdai ar-lein wedi eu cynllunio. Gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni, bydd yn llawer o hwyl!…
-
Prosiect Fi
Prosiect Fi yw ein gofod ar-lein newydd sy'n cynnig cefnogaeth i bobl ifanc ar gyfer eu hiechyd meddwl a'u lles bob dydd.
-
Rhaglen llesiant i ysgolion
Mae ein rhaglen 6 wythnos yn addas ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 5 a 6 yn yr ysgol gynradd a holl ddisgyblion ysgolion uwchradd a allai elwa o ddysgu mwy o sgiliau a strategaethau i hybu eu hiechyd emosiynol a’u llesiant.
-
4YP Bae Abertawe
Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc 13 - 16 oed yn Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot gan ddefnyddio cyfuniad o gefnogaeth un i un, grwpiau cymorth cymheiriaid a'r Rhaglen Meddwl am dy Feddwl.
-
4YP Gwent
Rydym yn gweithio ledled sir Gwent yn cynnig cefnogaeth i bobl ifanc rhwng 14 a 18 oed sy'n profi heriau gyda'u hiechyd meddwl.
-
Platfform i deuluoedd
Grwpiau a chefnogaeth un i un i rieni a brodyr a chwiorydd plant sy'n wynebu heriau iechyd meddwl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
-
Platfform 4YP
Y wefan i bobl ifanc, gan bobl ifanc. Gwefan llawn dop gyda blogiau, cefnogaeth, awgrymiadau ac arferion ar gyfer popeth lles pobl ifanc 14 – 25 oed…