Yr Hangout
Cysylltu â phobl eraill. Cael cefnogaeth iechyd meddwl. Dod o hyd i gyfleoedd.

Mae’n lle i chi gwrdd â phobl eraill, cael cefnogaeth iechyd meddwl, dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli, a chymryd rhan mewn grwpiau a allai helpu i roi hwb i’ch lles.
Mae’n addas i unrhyw un 11-18 oed.
Beth sydd yno?
- Cefnogaeth iechyd meddwl galw heibio (unrhyw bryd rydym ar agor!)
- Cefnogaeth iechyd meddwl wedi’i threfnu (os byddai’n well gennych wneud apwyntiad)
- Grwpiau lles
- Grwpiau creadigol
- Gwirfoddoli
Mae’n swnio’n dda. Beth sydd angen i mi ei wneud?
Rydym ar agor 3pm – 9pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a Dydd Sadwrn a dydd Sul – ar agor rhwng hanner dydd a 6pm ar gyfer sesiynau wedi’u harchebu ymlaen.
- Ar gyfer y rhan fwyaf o bethau, gallwch fynychu heb drefnu ymlaen llaw a gofyn unrhyw beth yr hoffech ei wybod.
- Ar gyfer cefnogaeth iechyd meddwl, rydym yn ceisio peidio â chael pethau fel rhestrau aros hir – gall unrhyw un sy’n teimlo fel bod angen rhywfaint o gefnogaeth arnynt ddod i siarad â ni, ac â’n gilydd byddwn ni’n gweithio allan beth i’w wneud nesaf.
- Ar gyfer grwpiau lles, grwpiau creadigol neu wirfoddoli, dewch i siarad â ni am beth sy’n digwydd a phryd, neu cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod.
Sut ydw i’n cyrraedd yno?
26-28 Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2DY
3A Tynewydd Road, Y Barri CF62 8HB
Sut ydw i’n gwneud cyswllt?
Gallwch ddod i’n gweld rhwng 3pm a 9pm, unrhyw ddiwrnod o’r wythnos. Gallwch hefyd anfon neges e-bost hangout@platfform.org.
Os dymunwch wneud apwyntiad ar gyfer cefnogaeth un i un, mae yna nifer fach o gwestiynau cyflym i’w hateb yma: Yr Hangout – Cael cefnogaeth (i bobl ifanc) (office.com)
Neu ffoniwch
Caerdydd 07811375417
Y Barri 07385668053
Pwy sy’n ei redeg?
Platfform ydym ni, elusen iechyd meddwl ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn ariannu’r Hangout.
Rydym yn gwneud llawer o bethau mewn perthynas ag iechyd meddwl a lles pobl ifanc. Nid ydym yn hoffi pan fydd pobl ifanc yn cael gwybod beth sydd ei angen arnynt yn syml, neu fod rhywbeth ‘o’i le’ â nhw. I ni, mae’n bwysig iawn gwrando ar bobl, clywed beth maent yn ei ddweud wrthym, a gweithio â phob unigolyn i ddarganfod â’n gilydd pa bethau fydd yn helpu mewn gwirionedd.
Rydym hefyd yn dwlu ar gysylltiad, oherwydd ein bod yn gwybod y gall ynysiad fod yn beth anodd iawn i les. Dyna pam, yn ogystal â chefnogaeth iechyd meddwl, mae gan Yr Hangout grwpiau a ffyrdd eraill i chi gyfarfod â phobl.
Rydym yn gweithio’n agos â gwasanaethau eraill y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn eu rhedeg sy’n cefnogi pobl ifanc. Mae hyn yn golygu ein bod yn gallu siarad â’n gilydd i wneud yn siŵr eich bod yn cael y gefnogaeth orau bosibl. Efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth â gwasanaethau eraill os credwn y bydd yn eich helpu chi neu os dymunwch i ni wneud hynny, ond ni fyddwn byth yn rhannu ag unrhyw un nad oes angen iddo/iddi wybod. Gallwch ddarllen mwy am sut rydym yn rhannu gwybodaeth yn ein taflen rhannu data