Rhaglen llesiant i ysgolion

Mae ein rhaglen 6 wythnos yn addas ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 5 a 6 yn yr ysgol gynradd a holl ddisgyblion ysgolion uwchradd a allai elwa o ddysgu mwy o sgiliau a strategaethau i hybu eu hiechyd emosiynol a’u llesiant.

Rhaglen Meddwl am dy Feddwl

Mae’r rhaglen Meddwl am dy Feddwl yn cynnig amgylchedd cynhwysol a chefnogol i bobl ifanc archwilio a chael profi ad o sgiliau dydd i ddydd i gefnogi eu llesiant.

Ein nod yw helpu pobl ifanc i deimlo’n llai unig yn eu profi adau ac i sylweddoli ein bod oll yn gallu profi cyfnodau anodd yn ein bywydau. Mae Meddwl am dy Feddwl yn arfogi pobl ifanc â sgiliau i’w helpu i oresgyn yr heriau maen nhw’n eu hwynebu a chreu cymuned o gefnogaeth.

Mae ein dull yn ystyriol o drawma ac mae’n gweithio gyda’r ddealltwriaeth bod ymddygiadau ac emosiynau, yn enwedig rhai anodd, yn aml yn ymateb dealladwy i sefyllfa heriol. Rydym yn canolbwyntio ar gryfderau pobl ifanc a’r pethau bach y gallwn eu gwneud bob dydd i gefnogi ein llesiant.

Ar gyfer pwy mae’r Rhaglen Meddwl am dy Feddwl?

Mae’r rhaglen 6 wythnos yn addas ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 5 a 6 yn yr ysgol gynradd a holl ddisgyblion ysgolion uwchradd a allai elwa o ddysgu mwy o sgiliau a strategaethau i hybu eu hiechyd emosiynol a’u llesiant.

Bydd y rhaglen yn cefnogi pobl ifanc i feithrin sgiliau sy’n cefnogi llesiant bob dydd. Gellir defnyddio’r sgiliau hyn hefyd i gefnogi eraill, felly gall gael effaith gadarnhaol ar unigolion ac ar gymuned ehangach yr ysgol fel ei gilydd.

Mae holl gynnwys y rhaglen wedi’i gyd-gynhyrchu gyda phobl ifanc yng Nghymru. Rydym wedi gwrando ar yr hyn y mae pobl ifanc ei angen, ac wedi creu adnoddau y gwnaethant ofyn amdanynt i’w helpu i reoli eu llesiant eu hunain.

Sut fydd Rhaglen Meddwl am dy Feddwl yn gweithio?

Mae’r rhaglen yn para 6 wythnos ac mae’n ymdrin â’r meysydd canlynol:

  • Meddylgarwch
  • Cadw’n weithgar
  • Meithrin cyfeillgarwch
  • Byw’n iach
  • Meddyliau cadarnhaol
  • Estyn allan
  • Helpu eraill
  • Cael trefn ar bethau
  • Arferion cwsg iach
  • Gosod nodau realistig a chyraeddadwy.

Bydd ein hymarferwyr yn ymweld â’r ysgol am brynhawn bob wythnos am gyfnod o 6 wythnos. Yn ystod pob ymweliad, cynhelir dau sesiwn (1 awr yr un). Gall bob sesiwn gynnwys hyd at 15 o blant; bydd angen i aelod o’r staff dysgu fod yn bresennol ar gyfer pob sesiwn. Bydd cyfarfod cyn ac ar ôl y cwrs gydag aelodau staff yr ysgol hefyd.

Bydd dyddiadur llesiant yn cael ei ddarparu sy’n tynnu’r deilliannau dysgu ynghyd ymhellach ac yn rhoi cofnod personol o gynnydd mesuradwy.

Beth yw buddion y Rhaglen Meddwl am dy Feddwl?

  • Rhaglen ar gyfer pobl ifanc, wedi’i chynhyrchu ar y cyd â phobl ifanc
  • Ymarferwyr arbenigol a phrofiadol o Dîm Platfform i Bobl Ifanc
  • Methodoleg brofedig sydd wedi derbyn adborth rhagorol
  • Deunyddiau i gefnogi siwrne llesiant barhaus pobl ifanc
  • Rydym wedi darparu’r rhaglen i fwy na 1,000 o bobl ifanc, ac mae 87% o’r cyfranogwyr a gwblhaodd y rhaglen wedi mynegi gwelliannau i’w llesiant.
  • Rydym yn defnyddio Graddfa Llesiant Meddyliol Warwick Edinburgh i fesur effaith y rhaglen, ynghyd ag adborth ansoddol a gesglir gan bobl ifanc a sefydliadau rydym wedi gweithio gyda nhw.

Adborth gan blant, rhieni, ac ysgolion

“Rwy’n teimlo bod y gwasanaeth hwn wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n disgyblion. Mae’r cyflwyniad yn ardderchog ac mae’r cynnwys yn hygyrch iawn i bawb. Mae’n llwyddo i agor trafodaeth am les ac iechyd meddwl heb fod yn fygythiol. Mae’n bleser gweithio gyda’r tîm.”
Arweinydd Cymorth Bugeiliol o Ysgol yn Abertawe

“Rwy’n teimlo ein bod wedi dod o hyd i berl wrth weithio gyda’ch sefydliad. Mae wedi rhoi i ni fel staff sy’n cefnogi iechyd meddwl pobl ifanc, sefydliad yr ymddiriedir ynddo y gwyddom y bydd yn gweithio gyda’r bobl ifanc ar unwaith ac i safon uchel. Dim rhestrau aros, dim diagnosis, dim esgusodion. Mae’n canolbwyntio ar rymuso’r bobl ifanc i wneud pethau drostynt eu hunain sydd mor angenrheidiol – yn enwedig ar hyn o bryd.”
Arweinydd Lles mewn Ysgol Castell Nedd Port Talbot. .

Manylion cysylltu a chost

I drafod a threfnu rhaglen i’ch ysgol chi ac i ffeindio allan am y cost, danfonwch ebost i Mary Rogers neu ffoniwch ar  07825 740285.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn

  • Prosiect Fi

    Prosiect Fi yw ein gofod ar-lein newydd sy'n cynnig cefnogaeth i bobl ifanc ar gyfer eu hiechyd meddwl a'u lles bob dydd.

  • Pobl ifanc

    Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc 13-25 oed i hyrwyddo lles trwy gyfuniad o gefnogaeth cymheiriaid, gweithdai a chyrsiau, cefnogaeth 1:1 a chyfleoedd gwirfoddoli.