HomeNewid systemCymorth o’r Galon

Cymorth o’r Galon

Gwrando a dysgu gan bobl sydd â phrofiad o ddefnyddio sylweddau a gwasanaethau ceiswyr noddfa yng Nghymru

“ ... ychydig o dosturi ac ychydig o empathi yn gyffredinol sy’n gwneud i rywun aros...

Gwnaethom lunio adroddiad a wnaeth ddwyn ynghyd chwiliad llenyddiaeth cychwynnol, ochr yn ochr â chanfyddiadau cyfweliadau a grwpiau ffocws, i gasglu barn pobl ynghylch pa newidiadau y gallem eu gwneud ledled Cymru, er mwyn creu’r amodau cywir i gefnogi pobl mewn ffordd berthynol.

Y nod oedd archwilio dealltwriaeth a phrofiadau’r Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma o safbwynt pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o ddefnyddio sylweddau neu geisio noddfa.

Rydyn ni mor falch o fod yn gweithio gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru, a oedd wedi cynnal y chwiliad llenyddiaeth ar gyfer pobl sy’n ceisio lloches, ac a gydlynodd y grwpiau ffocws a’r cyfweliadau. Roeddem hefyd yn falch o gael cefnogaeth gan GDAS, a helpodd ni gyda chyfweliadau a grwpiau ffocws ar gyfer y bobl maen nhw’n eu cefnogi.

Roedd ein canfyddiadau’n tanlinellu’r hyn rydym wedi’i weld yn platfform ers tro: nad yw’r system yn gweithio ar hyn o bryd mewn ffordd sy’n ei gwneud yn hawdd i ymarferwyr fod yn agored i niwed, yn fyfyriol, neu gynnig y cymorth cyfannol y mae pobl ei eisiau a’i angen

Cafodd Platfform ei gomisiynu gan Straen Trawmatig Cymru (TSW), ar y cyd â Hyb ACE Cymru, i gefnogi’r gwaith o gyflawni a gweithredu ymrwymiadau’r Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma.

Roedd yr adroddiad yn bosibl drwy gefnogaeth y New System Alliance, a gyllidir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

“Rydw i’n teimlo fy mod i’n cael fy stigmateiddio. Dydw i ddim yn hoffi cael fy ystyried yn ffoadur, yn berson Du. Rydw i eisiau cael fy nhrin fel bod dynol.”

Gweithredu Cymorth o’r Galon

Ar ôl cyhoeddi Cymorth o’r Galon, aeth Platfform at Cymorth Cymru i hwyluso gwaith ychwanegol i edrych ymhellach ar sut mae gwreiddio dull perthynol mewn gwasanaethau defnyddio sylweddau. Cafodd gwaith cydamserol ei wneud gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru ar wasanaethau i bobl sy’n chwilio am noddfa.

Mae’r adroddiad A Heart of Help – Further exploration of embedding relational values in the delivery of substance use services, gan Alex Osmond a Jordan Brewer, Cymorth Cymru, mewn partneriaeth â Rhwydwaith Defnyddio Sylweddau’r Trydydd Sector a Rhwydwaith Rheng Flaen Cymru, yn cynnwys safbwyntiau aelodau’r rhwydweithiau a’u cydweithwyr. Cafodd hyn ei wneud drwy grwpiau ffocws gyda staff sydd â phrofiad uniongyrchol o gefnogi pobl sydd â phroblemau defnyddio alcohol neu sylweddau, gan roi’r cyfle iddynt gyflwyno sylwadau a myfyrio ar werthoedd perthynol a’u gweithrediad.

Mae’r adroddiad Next Steps for Building Trauma-Informed Support for Sanctuary Seekers gan Sabiha Azad, Cydlynydd Sanctuary Coalition Cymru, yn rhannu canfyddiadau o drafodaethau grwpiau ffocws, trafodaethau gydag unigolion sydd â phrofiad bywyd o geisio noddfa, gan dynnu sylw at heriau gwahanol a dulliau ymarferol i weithredu arferion sy’n ystyriol o drawma yng Nghymru.