HomeLlesLllesiant yn y gweithle

Lllesiant yn y gweithle

Rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni hyfforddiant llesiant yn y gweithle trwy ein canolfan llesiant a chwnsela, Breathe. Gellir teilwra ein rhaglenni ar gyfer bob math o fudiadau a chwmnïau a gellir eu darparu yn fewnol neu mewn lleoliad o’ch dewis chi.

Materion Llesiant yn y Gwaith

Ydych chi’n gyflogwr sy’n ymwybodol o iechyd meddwl? Ydych chi ar drywydd dangos i’ch gweithwyr y gellir trafod materion iechyd meddwl yn agored ac yn gyfforddus yn eich gweithle?

Mae’r adnoddau gan Breathe i sicrhau eich siwrne tuag at fod yn weithle sy’n gwerthfawrogi llesiant ei weithwyr. Mae gweithwyr sydd â’r gallu i ddysgu ffyrdd newydd o ffynnu mewn cyfnodau heriol yn hanfodol ar y siwrne hon.

Bydd sesiynau cychwynnol Breathe ar gyfer rheolwyr yn eu harfogi â’r hyder i ymateb i faterion iechyd meddwl a chynnig y platfform arweinyddiaeth sydd ei angen arnoch i sicrhau eich bod yn cadw’ch gwybodaeth yn gyfredol yn y maes pwysig hwn.

Cysylltwch â Breathe i ddysgu mwy

Meithrin Gweithwyr Gwydn

A yw eich mudiad yn manteisio i’r eithaf ar wybod y gall gwydnwch fod yn sgil i’w dysgu a bod modd i chi arfogi’ch timau â’r mathau o sgiliau gwydnwch sydd eu hangen i roi hwb iddynt wrth fynd i’r afael â’r heriau sy’n eu hwynebu o ddydd i ddydd?

Mae darpariaeth Breathe yn datblygu sgiliau wedi’u seilio ar wydnwch, a gall hyn sicrhau na chaiff eich staff eu hanfon i weithio ar wyneb y graig heb sgiliau ymdopi i’w cynnal trwy gyfnodau heriol a chyflawni canlyniadau cadarnhaol. Yn greiddiol i lwyddiant Breathe y mae ein dull o deilwra ein hyfforddiant sgiliau i anghenion penodol eich mudiad, gan sicrhau ein bod yn teilwra’r sgiliau a drosglwyddwn i anghenion unigryw eich mudiad, a sicrhau dilyniant i wneud yn siŵr bod yr hyn a ddysgwyd yn cael ei ymgorffori’n llwyr.

Cysylltwch â Breathe i ddysgu mwy

Cefnogaeth a Chymorth Iechyd Meddwl Unigol

A oes gennych angen cefnogaeth unigol ar gyfer rhywun sy’n cael trafferth deall ethos a gwerthoedd emosiynol eich mudiad? A yw ymagwedd sensitif a deallusrwydd emosiynol yn hanfodol ar gyfer meithrin y mudiad a ddymunwch?

Mae Breathe yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad i weithwyr a rheolwyr sydd angen ehangu eu hymwybyddiaeth a’u gallu emosiynol i’w galluogi i weithio’n well o fewn eu gweithle. Nid hyfforddiant rheoli cyffredin mo hyn. Rydym yn hwyluso’r broses o gael pobl i ddod yn rhan o wireddu diwylliant sensitif a chefnogol yn y gweithle.

Cysylltwch â Breathe i ddysgu mwy

Rhaglenni Cymorth i Weithwyr

Pan fo gweithwyr yn cael problemau personol neu angen cymorth, a ydych chi’n fodlon bod eich Rhaglen Cymorth i Weithwyr yn cyflenwi gwasanaethau ymatebol ac yn rhoi gwerth da am arian?

Mae Breathe yn cynnig Rhaglen Cymorth i Weithwyr sy’n sicrhau ymateb o safon pan fo’i angen fwyaf ar eich gweithwyr. Mae’r rhaglen yn gweithio ar amrywiol raddfeydd sy’n cyflawni buddion go iawn gan ddefnyddio cynghorwyr cymwysedig, a gallai fod yn arbennig o ddefnyddiol i fentrau bach a chanolig. Mae croeso ichi siarad gyda ni i weld sut gallem gynnig yr opsiwn delfrydol ar gyfer eich gofynion Rhaglenni Cymorth i Weithwyr.

Cysylltwch â Breathe i ddysgu mwy

Diwrnodiau Llesiant Meithrin Tîm

Gallai Breathe fod yn lleoliad i’ch diwrnod meithrin tîm nesaf, yn cynnig diwrnod cynhyrchiol oddi wrth y swyddfa i’ch timau, gan ddangos eich bod yn malio am eu llesiant, a datblygu sgiliau technegau ymdopi ymarferol ar gyfer grwpiau o staff.

Gall Breathe ddarparu diwrnod llawn o ddysgu’ch tîm am lesiant, ac mae hyn yn ataliol o ran eu hiechyd meddwl personol yn ogystal â rhoi sgiliau ymarferol iddynt eu cyrchu’n ôl i’r swyddfa. Gan ddefnyddio ein cynllunydd Diwrnod Tîm pwrpasol, gallwch lunio’r profiad a fydd yn diwallu eich anghenion orau.

Cysylltwch â Breathe i ddysgu mwy