Debbie Green
Ymddiriedolwr
Debbie Green wyf fi ac rwy’n Ymddiriedolwr yn Platfform. Fi yw’r ymddiriedolwr sydd wedi gwasanaethu’n hiraf erbyn hyn, er nad yw’n teimlo mor hir â hynny, gan fod Platfform yn fudiad uchelgeisiol sydd bob amser eisiau gwneud pethau newydd. Un o Lundain wyf i’n wreiddiol, ond ar ôl bod yn y brifysgol, symudais i Gaerdydd gyda fy mhartner, sy’n hanu o ogledd Cymru. Rwy’n byw yn y Mwmbwls nawr, ac yn atgyweirio byngalo yn ne Gŵyr. Mae gennyf un ferch sydd yn ei blwyddyn olaf yn y brifysgol.
Fy swydd go iawn gyntaf oedd hyfforddi i fod yn gyfrifwr, gan nad oeddwn i’n gwybod beth i’w wneud gyda gradd mewn hanes. Ar ôl gadael fy swydd yn un o’r pedwar cwmni cyfrifon mawr, treuliais amser yn teithio yn India, de ddwyrain Asia ac Awstralia, cyn dychwelyd i’r Deyrnas Unedig a darganfod ar hap mai gweithio yn y sector dielw rwy’n angerddol drosto. Treuliais amser yn y Cyngor Celfyddydau cyn symud ymlaen i Chwarae Teg, yr elusen datblygu economaidd ar gyfer menywod. Ar hyn o bryd, rwy’n Brif Weithredwr ar gymdeithas dai, y Coastal Housing Group, yn Abertawe.
Rwy’n dipyn o workaholic, felly does gen i ddim llawer o amser rhydd. Fodd bynnag, rwy’n mwynhau byw yn agos at y môr, ac rwy’n mynd allan am dro ar hyd yr arfordir pan bynnag fo’r cyfle’n codi. Rwy’n edrych ymlaen at gael ychydig o dywydd cynhesach er mwyn cael mynd i’r môr, gan fod nofio, yn enwedig yn yr awyr agored, yn rhywbeth rwyf wedi bod yn hoff iawn ohono erioed. Bu farw ein ci wedi’i achub yn ddiweddar ac unwaith y byddwn ni wedi symud i mewn i’n heiddo ein hunain rydym yn meddwl am gael ci arall; mae’r tŷ yn teimlo braidd yn wag heb un.
Rwyf wedi meddwl erioed mod i’n “berson cryf”, ond lol llwyr yw hynny mewn gwirionedd, a phan fu farw fy mam yn gymharol ifanc, a dim ond ychydig ar ôl i mi gael fy merch, fe wnes i ddal ati fel arfer am ychydig o fisoedd, cyn suddo i isafbwynt llwyr. Mae hynny, wedi’i gyfuno a sefyllfaoedd llawn straen yn y gwaith, wedi gwneud i mi ailfeddwl am fy mlaenoriaethau a sut rwy’n edrych ar ôl fy hun. Tua’r adeg hwn, fe wnes i hefyd ddatblygu diddordeb mewn Bwdhaeth a myfyrio fel modd o feddwl yn wahanol amdanaf i fy hun ac am y byd. ’Dyw hynny ddim yn golygu nad wyf yn cael fy hudo gan botel o win coch a theisen o bryd i'w gilydd.