
Polisi a Dylanwadu
Ein blaenoriaeth dylanwadu sylfaenol yw atal trawma a hyrwyddo gwella ar gyfer y rhai sy'n profi trawma.
Credwn mai profiadau o drawma sydd y tu ôl i bron bob “her polisi” a drafodir mewn gwleidyddiaeth gyfoes. P’un ai sut i wella canlyniadau addysgol, defnyddio sylweddau, neu wella gwasanaethau iechyd yw’r mater sy’n cael ei drafod, trawma sydd wrth wraidd y mater. Felly, rydym yn ceisio atal trawma, osgoi ail drawma, a chreu’r amodau ar gyfer adferiad.
-
Ein Maniffesto dros Newid
Rydym yn galw am esblygiad yn y ffordd y mae iechyd meddwl yn cael ei ddeall a’i drin. Darllenwch am ein hargymhellion yn ein Maniffesto dros Newid.
-
Ymateb i’r ymgynghoriad ar Reoliadau Digartrefedd
Cefnogwn y dull o ymdrin â thai a digartrefedd sy’n cwmpasu strategaeth tai yn gyntaf, ailgartrefu cyflym a strategaeth dai sy’n ystyriol o drawma sydd wedi llywio datblygiad y cynllun gweithredu ar ddigartrefedd.
Rydym hefyd yn falch bod yr ymgynghoriad ar reoliadau wedi cydnabod yr angen i ailedrych ar fwriadoldeb ac angen blaenoriaethol o fewn y ddeddfwriaeth ar ddigartrefedd ac edrychwn ymlaen at weld hyn yn digwydd.
-
Ymateb ar ymgynghoriad i Gynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru
Cefnogwn nodau a dull y Cynllun Gweithredu, ond credwn y gellid ei gryfhau.
Mae’r cynllun yn cydnabod fod pobl LHDTC+ yn fwy tebygol o brofi heriau iechyd meddwl. Byddem yn pwysleisio bod profi rhagfarn a gwahaniaethu’n ffurf ar drawma, a bod hon yn ffurf ar drawma cyfunol.
-
Dogfen Briffio ar Anhwylder Personoliaeth Ffiniol a labelu goroeswyr camdriniaeth a thrais
Mae’r ‘symptomau’ a ddefnyddir i roi diagnosis BPD yn ymatebion dealladwy i brofiadau o drawma. Dyma pam mae llawer wedi dadlau y byddai’n fwy priodol defnyddio’r term diagnostig ‘PTSD cymhleth’, sydd â rhestr debyg o ‘symptomau’, yn hytrach.
O'r blog
-
Costau byw, a chostau oedi: pam mae angen am newid mwy treiddgar nawr
“Er bod croeso i’r cap ar brisiau ynni, ni fydd yn mynd i’r afael ag ofnau’r rhai sy’n profi'r gaeaf mewn tŷ oer. Ni fydd yn atal eu cynilion rhag cael eu bwyta i ffwrdd. Ac ni fydd yn dad-wneud y niwed a wneir i’n hiechyd ar y cyd’ - mae ein Pennaeth Polisi yn esbonio’r angen am newid dyfnach.
-
Ariannu’r cynllun i ddiddymu digartrefedd
Mae Platfform yn cefnogi galwad Cymorth Cymru a Community Housing Cymru i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y gyllideb sydd ar y gorwel ganddynt yn wirioneddol helpu i ddiddymu digartrefedd yng Nghymru.
-
Peilot Incwm Sylfaenol Cymru: rhoi mwy o werth ar bobl na gwaith papur
Hoffem weld byd ble nad oes rhaid i bobl a allai fod eisoes wedi cael diagnosis iechyd meddwl fynychu asesiadau amhersonol, dan arweiniad y system, er mwyn gallu bwyta.