Strategaeth a gwerthoedd
Mae ein strategaeth a’n gwerthoedd yn seiliedig ar ein cenhadaeth i fod yn llwyfan ar gyfer cysylltiad, trawsnewid a newid cymdeithasol.

Mae Platfform yn gysylltiedig, yn dosturiol, yn ddewr ac yn chwilfrydig.
Cysylltiedig
Mae synnwyr o gysylltiad yn sylfaenol i les. Mae hynny’n cynnwys teimlo cysylltiad â phobl, lleoedd, cymunedau, natur, mudiadau cefnogol, a’r byd ehangach.
I annog cysylltiad, rydym yn ddiffuant, yn agored ac yn onest – ac yn trin pawb yn gyfartal.
Tosturiol
Credwn y dylid dangos tosturi i bawb, felly caredigrwydd ac empathi sydd wrth galon ein dull wedi’i lywio gan drawma. Nid ydym yn beirniadu, nac yn awgrymu ein bod yn gwybod sut mae pobl yn teimlo – yn hytrach, rydym yn gwerthfawrogi gwahaniaethau unigol, ac yn rhoi’r parch haeddiannol i brofiadau bywyd pobl.
Dewr
Rydym yn fentrus wrth herio’r drefn bresennol yn niwylliant iechyd meddwl. Nid oes gennym ofn nofio yn erbyn y llif, rydym yn disgwyl ac y derbyn gwrthwynebiad i newid, ond rydym yn ymddiried yn ein greddf ac rydym am fod yn aflonyddgar ac yn benderfynol wrth sicrhau newid er lles cyffredinol pawb.
Chwilfrydig
Mae gennym ddiddordeb bob amser yn syniadau a phrofiadau pobl, ac rydym yn gweld ein gwaith fel proses o ddysgu parhaus. Rydym yn gofyn cwestiynau – ac yn cwestiynu’r atebion – fel rhan o fudiad cymdeithasol ehangach sy’n archwilio dulliau newydd ar gyfer lles cynaliadwy.