Ein Maniffesto dros Newid

Rydym yn galw am esblygiad yn y ffordd y mae iechyd meddwl yn cael ei ddeall a’i drin. Darllenwch am ein hargymhellion yn ein Maniffesto dros Newid.

Ein gweledigaeth ar gyfer symud Cymru ymlaen

Gan adeiladu ar gyhoeddiad diweddar Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, Cysylltu’r dotiau: mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru, rydym nawr yn rhannu ein gweledigaeth ar gyfer symud Cymru ymlaen yn ein Maniffesto ar gyfer Newid. Darllenwch ein Maniffesto yma.

Gan weithio gyda dros 9000 o bobl y flwyddyn sy’n wynebu heriau gyda’u hiechyd meddwl, rydym wedi gweld yr un patrymau yn dod i’r amlwg dro ar ôl tro. Mae’n amlwg nad yw’r systemau cymorth sydd ar waith yn gweithio a bod ein hiechyd meddwl cyfunol yn gwaethygu.

Mae angen ail-ddylunio'r systemau i gymryd mewn i ystyriaeth y pethau sydd wir yn effeithio ar ein hiechyd meddwl; tlodi, adfyd, anghyfiawnder a thrawma.

Mae angen inni weithredu ac adeiladu’r pethau a fydd yn helpu i greu newid gwirioneddol; gwaith teg, cyflog da, tai o safon, gofal plant, addysg dda, mynediad at drafnidiaeth, mannau gwyrdd, cynhwysiant, a chyfleoedd ar gyfer cysylltiadau a pherthnasoedd.

Mae’r daith tuag at newid eisoes wedi dechrau, ac mae’r blociau adeiladu ar gyfer system well yng Nghymru eisoes yn cael eu gosod. Yr hyn sydd ei angen arnom nesaf yw ymrwymiad hirdymor i barhau i yrru’r symudiad hwnnw ymlaen. Mae hyn yn golygu creu amodau cynaliadwy ac ymrwymo i daith y gwyddom y bydd yn cymryd degawdau i’w gwireddu. Ond mae’r degawdau o dystiolaeth, straeon miliynau, a’r ymchwil wyddonol yn ei gwneud yn glir: mae angen inni ddechrau nawr.

Mae llawer i fod yn falch ohono, ac felly o le o obaith y gwnawn yr argymhellion pellach canlynol ar gyfer trawsnewid a newid.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn

  • Strategaeth a gwerthoedd

    Ein cenhadaeth yw i fod yn blatfform ar gyfer cysylltu, trawsnewid a newid cymdeithasol.

  • Costau byw, a chostau oedi: pam mae angen am newid mwy treiddgar nawr

    “Er bod croeso i’r cap ar brisiau ynni, ni fydd yn mynd i’r afael ag ofnau’r rhai sy’n profi'r gaeaf mewn tŷ oer. Ni fydd yn atal eu cynilion rhag cael eu bwyta i ffwrdd. Ac ni fydd yn dad-wneud y niwed a wneir i’n hiechyd ar y cyd’ - mae ein Pennaeth Polisi yn esbonio’r angen am newid dyfnach.