Dogfen Briffio ar Anhwylder Personoliaeth Ffiniol a labelu goroeswyr camdriniaeth a thrais
Mae’r ‘symptomau’ a ddefnyddir i roi diagnosis BPD yn ymatebion dealladwy i brofiadau o drawma. Dyma pam mae llawer wedi dadlau y byddai’n fwy priodol defnyddio’r term diagnostig ‘PTSD cymhleth’, sydd â rhestr debyg o ‘symptomau’, yn hytrach.
Crynodeb:
- Mae’r diagnosis o Anhwylder Personoliaeth Ffiniol (Borderline Personality Disorder/BPD), yn label a ddefnyddir yn anghyfartal ar fenywod; mae 75% o’r rhai a gaiff y diagnosis hwn yn fenywod. Fodd bynnag, mae 81% o’r rhai a gaiff ddiagnosis BPD wedi datgelu trawma yn y gorffennol. Yn 2019, mae menywod 7 gwaith yn fwy tebygol o gael diagnosis BPD na dynion sydd â chyflwyniad tebyg.
- Ond mae’r ‘symptomau’ a ddefnyddir i roi diagnosis BPD yn ymatebion dealladwy i brofiadau o drawma. Dyma pam mae llawer wedi dadlau y byddai’n fwy priodol defnyddio’r term diagnostig ‘PTSD cymhleth’, sydd â rhestr debyg o ‘symptomau’, yn hytrach.
- Mae’r camddiagnosis hwn yn effeithio ar oroeswyr camdriniaeth rywiol fwy na neb arall, am eu bod yn aml yn dangos y ‘symptomau’ sy’n gyffredin i’r ddau ‘anhwylder’, fel meddyliau am hunanladdiad, dicter, symptomau datgysylltiol, clywed lleisiau, ymddygiadau byrbwyll, amrywiadau yn eu hwyliau, iselder, gwacter, a dicter dadleoledig. O ganlyniad, mae cysgod diagnostig yn disgyn pan ddwedir wrth rywun sy’n ceisio ymdopi â thrawma cymhleth eu bod yn “cael problem rheoleiddio eu hemosiynau”
- Mae defnyddio’r term hwn yn beio’r dioddefwr am eu hymateb i brofiadau niweidiol. Caiff ymateb dealladwy i brofiad bywyd dychrynllyd ei droi’n salwch y mae’r person yn cael eu dal yn gyfrifol amdano, ac yna’n cael eu gwrthod gan y system am fod y salwch hwn arnynt.
- Mae defnyddio’r term hwn yn bwrw cyfiawnder i’r cysgod, gan ei fod yn taflu amheuaeth yn aml ar adroddiadau dioddefwyr camdriniaeth a thrais yn y llysoedd. Mae’r label ‘anhwylder personoliaeth’ yn cael ei ddefnyddio’n ddifrïol gan dimau amddiffyn i daflu amheuaeth ar ddioddefwyr. Mae proses debyg yn digwydd yn y llys teulu.
- Mae pobl sydd wedi cael y diagnosis hwn yn cael eu stigmateiddio, gwahaniaethir yn eu herbyn, a chânt eu heithrio o lawer o wasanaethau cyhoeddus, sy’n creu system sy’n peri trawma o’r newydd iddynt.
- Dyma pam mae Platfform yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r defnydd o BPD yng Nghymru, ac ystyried a ddylid defnyddio diagnosis mwy priodol o Anhwylder Straen Ôl-drawmatig Cymhleth (PTSD cymhleth) yn hytrach.
Diagnosis ‘BPD’ yn erbyn PTSD Cymhleth
Y ‘symptomau’ neu ‘feini prawf diagnostig’ ar gyfer BPD yw ateb ‘ie’ i 5 neu ragor o’r ‘symptomau’ canlynol: Ofn cael eu gadael ar eu pen eu hunain, sy’n achosi ymddygiad nad yw’n arferol o bosibl, patrwm o berthnasau ansefydlog neu fyr, bod heb synnwyr cadarn ohonynt eu hunain, ymddygiadau byrbwyll neu hunan-niweidiol, hunan-anafu, amrywiadau hwyliau sy’n para am funudau neu oriau, teimladau gwag, teimlo dicter yn sydyn ac yn gryf iawn, a theimlo’n amheus, yn baranoïg, neu ddatgysylltu.
‘Symptomau’ PTSD cymhleth yw: teimladau o gywilydd neu euogrwydd, anhawster rheoli emosiynau, cyfnodau o golli sylw a gallu canolbwyntio (datgysylltu), symptomau corfforol (cur pen, pendro, poenau yn y frest a phoenau bol), torri cyswllt gyda ffrindiau a theulu, problemau perthynas, ymddygiad hunan-niweidiol neu beryglus, a meddyliau am hunanladdiad.
Mae’n amlwg fod gorgyffwrdd sylweddol rhwng y ‘symptomau’ hyn. Y gwahaniaeth mawr yw bod diagnosis o ‘PTSD cymhleth’ yn digwydd dim ond pan fo ymwybyddiaeth fod yr unigolyn wedi profi trawma dro ar ôl tro, fel trais, camdriniaeth neu esgeulustod mewn plentyndod a/neu fel oedolyn.
Er mwyn cael diagnosis o anhwylder personoliaeth, mae seiciatrydd yn gwneud penderfyniad ynghylch a yw mynegiad o emosiwn neu ymddygiad yn ‘addas’ mewn sefyllfa benodol. Mae hyn yn hynod oddrychol ac mae’n caniatáu i werthoedd, profiadau a rhagfarnau staff meddygol effeithio ar y defnydd o ddiagnosis ‘BPD’ ac anhwylderau personoliaeth eraill9. Gwyddom fod hiliaeth a rhywiaeth sefydliadol yn bodoli yn y system iechyd meddwl, ac mae caniatáu i labeli sy’n stigmateiddio fel hyn gael eu rhoi ar sail mor oddrychol yn broblemus.
Yn fy mhrofiad i, os ydych chi’n fenyw sy’n hunan-anafu, fe gewch ddiagnosis o Anhwylder Personoliaeth Ffiniol (BPD), waeth beth arall sy’n mynd ymlaen. Mae rhywbeth o’i le yn y system hon, yn sicr. — Kier Harding
Canlyniadau cael diagnosis ‘BPD’
Bydd canlyniadau cael diagnosis ‘BPD’ yn aros gyda goroeswyr camdriniaeth ar hyd eu hoes. Efallai y caiff gwasanaethau eu gwrthod iddynt, neu wrthod mynediad at addysg, tai, galwedigaethau, cyrsiau coleg, yswiriant a chyfleoedd gwirfoddoli. Efallai y dywedir wrthynt eu bod yn ‘rhy ansefydlog’ i fod yn rhan o brosiectau neu i ddechrau therapi. Mae hyd yn oed yn bosibl i’w diagnosis gael ei fflagio gyda’u heddlu lleol, criwiau ambiwlans, gwasanaeth tân, meddygfeydd teulu a’r gwasanaethau cymdeithasol.
Gellir pasio diagnosis seiciatryddol i wasanaethau brys sydd wedyn yn defnyddio’r wybodaeth honno allan o’i gyd-destun i labelu pobl yn ‘risg uchel’ ac yna ymateb i sefyllfaoedd mewn modd amhriodol. Gallai hyd yn oed olygu eu bod yn galw ar yr heddlu i’w cefnogi. At hynny, gallai olygu bod meddyg teulu’n llai tebygol o’u credu pan fyddant yn gofyn am help meddygol arall am eu bod wedi cael eu fflagio fel rhywun gyda diagnosis o anhwylder personoliaeth.
Mae pryderon am effeithiau’r diagnosis hwn yn dyddio’n ôl mor bell â 1988, pan gyhoeddwyd astudiaeth yn y British Journal of Psychiatry a ganfu fod:
Cleifion a oedd wedi cael diagnosis blaenorol o anhwylder personoliaeth (PD) yn cael eu hystyried yn anoddach ac yn llai haeddiannol o ofal o’i gymharu â’r unigolion a oedd yn destunau rheolaeth yn yr astudiaeth. Ystyriwyd fod yr achosion PD yn ystrywgar, yn chwilio am sylw, yn annifyr, a bod ganddynt reolaeth dros eu hysfeydd dros hunanladdiad a dyledion. Ymddengys felly bod PD yn feirniadaeth ddifrïol barhaus yn hytrach nac yn ddiagnosis clinigol. Cynigir fod y cysyniad hwn yn cael ei gefnu arno.
Bydd llawer o sefydliadau allanol yn defnyddio’r diagnosis i ddileu menywod. Mae’n bosibl i’r system cyfiawnder troseddol a’r llysoedd teulu ystyried menywod sydd wedi cael diagnosis o’r fath yn annibynadwy neu na ddylid eu credu. Dangosodd astudiaeth yn 2019 fod digwyddiadau yn cynnwys dioddefwyr-goroeswyr gyda phroblemau iechyd meddwl yn sylweddol llai tebygol na’r rhai heb broblemau iechyd meddwl i gael eu hystyried yn droseddau, i arwain at gyhuddiad troseddol, i fynd ymlaen i dreial, ac i arwain at euogfarn. Mae Treisio a Thrais yn y Cartref eisoes yn droseddau anodd eu herlyn, ac mae defnyddio label BPD yn cyfrannu at hyn ac yn ei waethygu.
Mae pryderon hefyd ynghylch yr effaith a gaiff y label hwn yn y system llys teulu, pan gall brwydrau dros warchodaeth eu hunain fod yn destun trawma, ac mae dioddefwyr camdriniaeth yn aml yn cael eu croesholi am eu hiechyd meddwl.
Mae diagnosis yn rhoi’r broblem hon ar ysgwyddau’r person ac mae hyn yn golygu eu bod yn ei fewnoli. Mae llawer o ganlyniadau niweidiol yn gysylltiedig â hyn. Mae’n gwneud i’r unigolyn feddwl mai arnyn nhw mae’r bai, ac mae eu ‘personoliaeth ddiffygiol’ sydd i’w feio am y gamdriniaeth. Does yna ddim byd y gallan nhw ei wneud i adfer o’u ‘symptomau’ ac mae’r canlyniadau sy’n gysylltiedig â’r diagnosis yn wael. Gall hyn wneud i’r trallod barhau, a gall olygu nad yw pobl yn gallu chwilio am gyfiawnder am y gamdriniaeth maen nhw wedi’i ddioddef. Mae hefyd yn atal yr ymyraethau a’r gefnogaeth iawn rhag cael eu darparu neu eu cyrchu. Mae diagnosis ‘BPD’ yn golygu bod pobl yn cael neges ‘nad oes unrhyw beth mwy y gallwn ei wneud’. Mae hyn yn cyfrannu at yr anobaith a’r diymadferthedd y mae llawer o bobl yn ei deimlo eisoes.
Golyga hefyd ein bod ni fel cymdeithas yn parhau i smalio fod symptomau trallod meddyliol ac ymatebion i drawma yn ganlyniad geneteg ddiffygiol ar hap. Mae hyn yn cymylu’r rôl y mae penderfynyddion cymdeithasol a’n hamgylchiadau’n eu chwarae yn ein canlyniadau iechyd meddwl.
I gloi, dyma ddiagnosis nad yw’n gwneud fawr o synnwyr gwyddonol, sy’n rhywiaethol, ac sy’n cyfrannu at beri trawma o’r newydd i ddioddefwyr camdriniaeth. Ni all fod yn rhan o system iechyd meddwl sy’n ystyried trawma.
Felly, am beth ydym ni’n galw?
Cred Platfform fod yr amser wedi dod i gynnal adolygiad ar ddefnyddio categorïau diagnostig ‘anhwylder personoliaeth’, yn enwedig y defnydd o ‘Anhwylder Personoliaeth Ffiniol’ pan fo pobl wedi profi trawma. Hoffem adolygiad i roi ystyriaeth yn benodol i’r canlynol:
- A yw’r diagnosis yn cael ei gymhwyso’n iawn, a hynny ddim ond ar ôl i bosibiliadau eraill fel PTSD cymhleth gael eu hystyried a’u diystyru
- I ba raddau mae casineb sefydliadol at fenywod yn y system iechyd meddwl yn arwain at ddefnyddio’r diagnosis hwn yn anghymesur ar fenywod.
- Sut gall dioddefwyr camdriniaeth a thrais gael eu cefnogi’n fwy addas a’u helpu i adfer gan y system iechyd meddwl, yn hytrach na bod y gamdriniaeth yn parhau drwy gyfrwng label amhriodol.
- Y sylfaen tystiolaeth sy’n cefnogi dilysrwydd y cysyniad o ‘anhwylder personoliaeth’ ac a yw’n bryd cefnu ar y label hwn.