Ymateb Platfform i Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2023 drafft
Rydym yn croesawu’r flaenoriaeth y mae’r strategaeth wedi’i rhoi ar gynnwys llais pobl Cymru. Mae hyn yn hollbwysig wrth fynd i’r afael â chymhlethdod y broblem dan sylw.
Yn ein hymateb, rydym yn manylu ar sut mae angen i’r strategaeth fynd hyd yn oed ymhellach i fynd i’r afael â’r croestoriad a’r cymhlethdod sydd ar waith.
Dyna pam ei bod yn hanfodol ein bod yn dilyn dull o weithredu sy’n ystyriol o drawma o fynd i’r afael â thlodi. Un sy’n ystyried ein hanghenion perthynol ac effaith trawma datblygiadol, a thrawma eraill hefyd. Nid oes pwynt taflu cyfleoedd at bobl os nad ydynt yn ddigon iach i fanteisio arnynt neu eu cynnal.
Rydym yn gwybod bod 1000 diwrnod cyntaf bywyd yn amser hanfodol yn natblygiad plant, ac mae’r ddau fis cyntaf yn cael effaith arbennig o anghymesur ar iechyd, cyfleoedd a chanlyniadau iechyd meddwl plant. (Perry ac Oprah, 2021). Os ydym yn cefnogi teuluoedd, yn enwedig mamau, yn ystod y cyfnod hwn, trwy ddull teulu cyfan o weithredu byddai ganddo effaith sylweddol.
Yn yr un modd, mae’n rhaid i ni beidio ag anghofio bod y gweithlu ar draws llawer o sectorau dan bwysau aruthrol, ac mae newid yn heriol iawn yn yr amgylchiadau ansefydlog ac ansicr presennol. Ond mae yna obaith. Os gallwn gofleidio cymhlethdod y broblem, a chanolbwyntio ar greu amodau ar gyfer cysylltiad a pherthyn, gallwn liniaru yn erbyn y niwed, gan ddechrau prosesau iachau a chefnogi’r amodau ar gyfer twf ar ôl trawma.
Isod fe welwch grynodeb o’n hargymhellion wedi’u cefnogi gan syniadau o ymarfer ac ymchwil, i atgyfnerthu ein safbwynt isod neu ychwanegu ato.