Ymateb Platfform i Perthyn, Ymgysylltu a Chyfranogi
Mae’r canllawiau a gyhoeddwyd ar Perthyn, ymgysylltu a chyfranogi yn gyfraniad cadarnhaol iawn at y polisi a’r ymarfer mewn perthynas â phresenoldeb pobl ifanc mewn lleoliadau addysgol (yn yr ysgol ac mewn lleoliadau eraill).
Fodd bynnag, mae rhai meysydd clir ac allweddol lle byddem yn dymuno gweld newidiadau sylweddol, a lle credwn fod cyfleoedd wedi’u colli.
Mae’r canllawiau a gyhoeddwyd ar Perthyn, ymgysylltu a chyfranogi yn gyfraniad cadarnhaol iawn at y polisi a’r ymarfer mewn perthynas â phresenoldeb pobl ifanc mewn lleoliadau addysgol (yn yr ysgol ac mewn lleoliadau eraill), ac fel sefydliad rydym yn falch o weld amrywiaeth eang o bwysau, yn ogystal â dulliau gwahanol o ymgysylltu â phobl ifanc a’u teuluoedd a/neu ffigurau fel rhieni y cyfeirir atynt yn y canllawiau neu a argymhellwyd ynddynt.
Fodd bynnag, mae rhai meysydd clir ac allweddol lle byddem yn dymuno gweld newidiadau sylweddol, a lle credwn fod cyfleoedd wedi’u colli i gynnig golwg hyd yn oed yn fwy cyfannol, cynnil ar y realiti i bobl ifanc a’u rhieni neu ffigurau fel rhieni, yn enwedig o ran iechyd meddwl, tlodi a dylanwadau allweddol eraill ar bresenoldeb pobl, neu ymgysylltiad arall ag addysg.
Mae ein hymateb yn canolbwyntio ar ddau brif faes thema y credwn y mae angen eu datblygu ymhellach:
• Lleihau cywilydd i rieni, ffigyrau fel rhieni a phobl ifanc
• Creu cysylltiad rhwng pobl a chymunedau
Rydym wedi manylu ar elfennau penodol, gan ofyn i Lywodraeth Cymru:
• Ystyried dileu’r defnydd o hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer absenoldebau ysgol;
• Ystyried diweddaru’r canllawiau ar gontractau rhieni i sicrhau yr eir i’r afael â’r anghydbwysedd pŵer;
• Ystyried cynhyrchu “asesiadau bregusrwydd” enghreifftiol peilot i feithrin dull o weithredu sy’n fwy seiliedig ar gryfderau;
• Ystyried diweddaru’r canllawiau fel bod y dulliau a awgrymir ar gyfer osgoi’r ysgol am resymau emosiynol yn ddulliau diofyn oweithredu, a awgrymir ar gyfer pob absenoldeb;
• Parhau i ddatblygu’r dull Dim Drws Anghywir o weithredu, ac ymgysylltu â’r trydydd sector yn y symudiad tuag at ddull o weithredu dan fwy o arweiniad y gymuned;
• Parhau i ddatblygu’r ddealltwriaeth o ddulliau o weithredu sy’n ystyriol o drawma ledled Cymru, yn enwed ig wrth edrych ar leihau arferion cyfyngol ar draws y system ysgolion.
Nid yw’r pwyntiau hyn yn hollgynhwysol, ac mae eraill wedi’u cynnwys yn y manylion, ond dyma ein pwyntiau â blaenoriaeth.