HomePolisi a Dylanwadu

Polisi a Dylanwadu

Ein blaenoriaeth dylanwadu sylfaenol yw atal trawma a hyrwyddo gwella ar gyfer y rhai sy'n profi trawma.

Credwn mai profiadau o drawma sydd y tu ôl i bron bob “her polisi” a drafodir mewn gwleidyddiaeth gyfoes. P’un ai sut i wella canlyniadau addysgol, defnyddio sylweddau, neu wella gwasanaethau iechyd yw’r mater sy’n cael ei drafod, trawma sydd wrth wraidd y mater. Felly, rydym yn ceisio atal trawma, osgoi ail drawma, a chreu’r amodau ar gyfer adferiad.

  1. Ymateb Prosiect Power-Up Platfform i ymateb Llywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad: “a yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant?”

    Rydym yn falch o weld Llywodraeth Cymru yn nodi pwysigrwydd gwella’r gefnogaeth i blant a phobl ifanc anabl mewn addysg a gofal plant.

    Fodd bynnag, hoffem weld Llywodraeth Cymru yn ailystyried rhai o’r dewisiadau er mwyn manteisio ar bob cyfle i ddiwallu anghenion pobl ifanc anabl.

    Cyhoeddwyd:
    Dydd Mercher 30th Hydref, 2024
  2. Pwyllgor Cyllid: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25

    Nid ydym erioed wedi cyflwyno ymateb i bwyllgor fel yr un hwn, mewn dros 30 mlynedd o ddarparu gwasanaethau yng Nghymru i bobl sy’n profi heriau iechyd meddwl, argyfwng tai neu ddigartrefedd. Mae’n bwysig i ni dystiolaethu poen y bobl rydym yn eu cefnogi, a’n cydweithwyr sy’n darparu’r gefnogaeth honno. Byddwn yn dod o hyd i'n gobaith yng Nghymru, gyda'n gilydd.

    Cyhoeddwyd:
    Dydd Mercher 20th Rhagfyr, 2023
  3. Ymateb Platfform i Perthyn, Ymgysylltu a Chyfranogi

    Mae’r canllawiau a gyhoeddwyd ar Perthyn, ymgysylltu a chyfranogi yn gyfraniad cadarnhaol iawn at y polisi a'r ymarfer mewn perthynas â phresenoldeb pobl ifanc mewn lleoliadau addysgol (yn yr ysgol ac mewn lleoliadau eraill).

    Fodd bynnag, mae rhai meysydd clir ac allweddol lle byddem yn dymuno gweld newidiadau sylweddol, a lle credwn fod cyfleoedd wedi'u colli.

    Cyhoeddwyd:
    Dydd Mercher 11th Hydref, 2023
  4. Ymateb Platfform i Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2023 drafft

    Rydym yn croesawu'r flaenoriaeth y mae'r strategaeth wedi'i rhoi ar gynnwys llais pobl Cymru. Mae hyn yn hollbwysig wrth fynd i'r afael â chymhlethdod y broblem dan sylw.

    Yn ein hymateb, rydym yn manylu ar sut mae angen i'r strategaeth fynd hyd yn oed ymhellach i fynd i'r afael â'r croestoriad a'r cymhlethdod sydd ar waith.

    Cyhoeddwyd:
    Dydd Mercher 11th Hydref, 2023
  5. “Os Nid Nawr Yna Pryd” – Barn Platfform am ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

    Ar y cyfan, mae Platfform yn falch iawn o glywed bod y Llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd ymyrraeth gynnar ac atal wrth ofalu a chefnogi pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, a’u heiriolaeth o drawma ac arfer gwybodus. Fodd bynnag, mae gennym rai pryderon nad oes ymrwymiad digon cadarn i’r diwygiadau radical y mae’r adroddiad yn gofyn amdanynt.

    Cyhoeddwyd:
    Dydd Mercher 12th Gorffennaf, 2023
  6. Ein Maniffesto dros Newid

    Rydym yn galw am esblygiad yn y ffordd y mae iechyd meddwl yn cael ei ddeall a’i drin. Darllenwch am ein hargymhellion yn ein Maniffesto dros Newid.

    Cyhoeddwyd:
    Dydd Iau 2nd Chwefror, 2023
  7. Ymateb i’r ymgynghoriad ar Reoliadau Digartrefedd

    Cefnogwn y dull o ymdrin â thai a digartrefedd sy’n cwmpasu strategaeth tai yn gyntaf, ailgartrefu cyflym a strategaeth dai sy’n ystyriol o drawma sydd wedi llywio datblygiad y cynllun gweithredu ar ddigartrefedd.

    Rydym hefyd yn falch bod yr ymgynghoriad ar reoliadau wedi cydnabod yr angen i ailedrych ar fwriadoldeb ac angen blaenoriaethol o fewn y ddeddfwriaeth ar ddigartrefedd ac edrychwn ymlaen at weld hyn yn digwydd.

    Cyhoeddwyd:
    Dydd Iau 23rd Mehefin, 2022
  8. Ymateb ar ymgynghoriad i Gynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru

    Cefnogwn nodau a dull y Cynllun Gweithredu, ond credwn y gellid ei gryfhau.

    Mae’r cynllun yn cydnabod fod pobl LHDTC+ yn fwy tebygol o brofi heriau iechyd meddwl. Byddem yn pwysleisio bod profi rhagfarn a gwahaniaethu’n ffurf ar drawma, a bod hon yn ffurf ar drawma cyfunol.

    Cyhoeddwyd:
    Dydd Gwener 11th Mawrth, 2022
  9. Dogfen Briffio ar Anhwylder Personoliaeth Ffiniol a labelu goroeswyr camdriniaeth a thrais

    Mae’r ‘symptomau’ a ddefnyddir i roi diagnosis BPD yn ymatebion dealladwy i brofiadau o drawma. Dyma pam mae llawer wedi dadlau y byddai’n fwy priodol defnyddio’r term diagnostig ‘PTSD cymhleth’, sydd â rhestr debyg o ‘symptomau’, yn hytrach.

    Cyhoeddwyd:
    Dydd Gwener 11th Mawrth, 2022

O'r blog

  1. Ariannu’r cynllun i ddiddymu digartrefedd

    Mae Platfform yn cefnogi galwad Cymorth Cymru a Community Housing Cymru i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y gyllideb sydd ar y gorwel ganddynt yn wirioneddol helpu i ddiddymu digartrefedd yng Nghymru.

    Cyhoeddwyd:
    Dydd Mercher 8th Rhagfyr, 2021
  2. Peilot Incwm Sylfaenol Cymru: rhoi mwy o werth ar bobl na gwaith papur

    Hoffem weld byd ble nad oes rhaid i bobl a allai fod eisoes wedi cael diagnosis iechyd meddwl fynychu asesiadau amhersonol, dan arweiniad y system, er mwyn gallu bwyta.

    Cyhoeddwyd:
    Dydd Gwener 10th Medi, 2021