Gwersi o’r cyfnod cloi
A yw’r ffordd rydym yn gweithio, yn meddwl, ac yn ymddwyn wedi newid am byth yn sgil y cyfnod cloi? Allech chi fod yn rhan o ddefnyddio’r profiadau hyn i greu gwell dyfodol?
Dewch inni rannu’r hyn rydym wedi’i ddysgu, yr hyn sydd wedi bod yn anodd inni, a sut gall y ddau fath o brofiad sbarduno newid.
Mae’n bryd inni gael sgwrs genedlaethol am y newidiadau rydyn ni wedi’u gweld yn ein huchelgeisiau, ein ffyrdd o weithio, a’r ffordd rydyn ni’n meddwl.
Cyn Coronafeirws, bydd llawer ohonom wedi gweld ein gwaith yn symud tuag at ganolbwyntio mwy ar yr unigolyn, ar gryfderau ac ar gydweithio. Ond a yw’r pandemig wedi ein symud ymhellach oddi wrth y nodau hyn, ynteu a yw canfod fyrdd o ymateb i’r her wedi bod o gymorth inni mewn gwirionedd?
Ymunwch â ni, a gadewch inni wybod beth rydych chi wedi’i wynebu, beth rydych wedi’i oresgyn, a beth rydych wedi’i ddarganfod. Oherwydd os gallwn ni gofnodi’r hyn rydym wedi’i ddysgu, yna gallwn ei rannu, datblygu arno, a’i ddefnyddio i greu dyfodol mwy disglair.
Oes gennych chi rywbeth i’w rannu ond yn methu â gwneud y digwyddiad? Rhannwch eich profiadau gyda ni yn talk@platfform.org
-
Dydd Gwener 3 Gorffennaf – Iechyd Meddwl
(Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben) Pa effaith mae ofn, pryder a straen wedi’i gael ar unigolion, cydweithwyr, a’r gefnogaeth sydd ar gael yn ystod y cyfyngiadau symud? Sut ydych chi wedi bod yn estyn allan i bobl yn ystod cyfnodau o hunanynysu? Sut hoffech chi weithio yn y dyfodol?
-
Dydd Mawrth 7 Gorffennaf – Gweithredu Cymunedol
(Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben) Ydych chi wedi dod â phobl ynghyd tra’r ydym wedi bod yn cael ein cadw ar wahân? Beth mae hyn wedi’i olygu i chi, neu i’ch cymuned? A yw gweithredu cymunedol wedi newid am byth, a sut hoffech iddo fod yn y dyfodol?
-
Dydd Gwener 10 Gorffennaf – Gofal Cymdeithasol
(Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben) Sut ydych chi’n amgyffred eich profiadau o gefnogi pobl yn y misoedd diwethaf? A fu’n rhaid ichi fod yn radical wrth gyrraedd y rhai sydd angen cefnogaeth? Sut ydych chi wedi cydbwyso hyn gyda diogelwch? Sut fydd hyn yn goleuo eich gwaith yn y dyfodol?
-
Dydd Mawrth 14 Gorfffennaf – Camddefnyddio Sylweddau
(Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben) Pa effaith mae’r cyfyngiadau symud wedi’i gael ar y ffordd y mae pobl yn defnyddio sylweddau? Sut mae gwasanaethau cefnogi a’r rhai a gaiff eu cefnogi wedi cael eu heffeithio arnynt? Beth ydych chi wedi’i ddysgu a fydd yn goleuo gwaith y dyfodol?
-
Dydd Gwener 17 Gorffennaf – Digartrefedd a Thai
(Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben) Ydyn ni'n arwain newid system yng Nghymru? Sut? Ymunwch â sgwrs ledled y DU ar wersi o gloi i lawr gyda'r MayDay Trust a'r Homeless Network Scotland.
-
Dydd Gwener 31st Gorffennaf – Arweinyddiaeth
(Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben) A yw’r cyfyngiadau symud wedi newid y ffordd rydych chi’n arwain? Beth rydych wedi’i ddysgu am arweinyddiaeth effeithiol – a sut mae hynny’n eich helpu gyda’ch cenhadaeth i newid y byd? Sut fyddwch chi’n arwain yn y dyfodol newydd?