HomeProsiectauAtal argyfyngau a’r cartrefNoddfa Seibiant: man croesawgar mewn argyfwng

Noddfa Seibiant: man croesawgar mewn argyfwng

Mae Noddfa Seibiant yn cynnig cymorth mewn argyfwng iechyd meddwl, ar adegau o’r dydd pan mae’r rhan fwyaf o wasanaethau eraill ar gau.

Mae’r Noddfa Seibiant yn cynnig lle croesawgar i’r rheini sy’n wynebu argyfwng, sydd angen cymorth iechyd meddwl. Mae tîm y Noddfa yn cynnig cyngor, cymorth a lle diogel i anadlu a chysylltu.

Beth sydd ar gael?

  • Cymorth, cyngor ac arweiniad ynglŷn â thai ac arian.
  • Cymorth o ran cyfeirio at ragor o gymorth.
  • Bwyd, pethau ymolchi a dillad hanfodol.

Sut mae’n gweithio?

Rydym wedi ein lleoli yng Nghaerdydd. Rydyn ni ar agor bob dydd o’r flwyddyn o 5pm tan hwyr. Y cam cyntaf yw ffonio llinell gymorth GIG 111 drwy ffonio 111 a phwyso 2.

Os yw’n briodol, bydd tîm GIG 111 yn eich cyfeirio at y Noddfa a bydd un o’n tîm yn ceisio eich ffonio o fewn 30 munud. Rydyn ni’n cynnig cymorth dros y ffôn ac apwyntiadau wyneb i wyneb os ydych chi eisiau, yr un noson.