Yr Hangout
Cysylltu â phobl eraill. Cael cefnogaeth iechyd meddwl. Dod o hyd i gyfleoedd.
Mae’n lle i chi gwrdd â phobl eraill, cael cefnogaeth iechyd meddwl, dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli, a chymryd rhan mewn grwpiau a allai helpu i roi hwb i’ch lles.
Mae’n addas i unrhyw un 11-17 oed.
Beth sydd yno?
- Cefnogaeth iechyd meddwl galw heibio (unrhyw bryd rydym ar agor!)
- Cefnogaeth iechyd meddwl wedi’i threfnu (os byddai’n well gennych wneud apwyntiad)
- Grwpiau lles
- Grwpiau creadigol
- Gwirfoddoli
Mae’n swnio’n dda. Beth sydd angen i mi ei wneud?
Rydym ar agor rhwng 3pm a 9pm yn ystod yr wythnos, a rhwng 12pm a 6pm ar benwythnosau. Ar gyfer y rhan fwyaf o bethau, gallwch alw heibio a gofyn unrhyw beth rydych am ei wybod.
Ar gyfer cymorth iechyd meddwl, gall unrhyw un sy’n teimlo bod angen ychydig o gymorth arno ddod i siarad â ni, a gyda’n gilydd byddwn yn datrys beth i’w wneud nesaf.
Ar gyfer grwpiau lles, grwpiau creadigol neu wirfoddoli, dewch i siarad â ni am yr hyn sy’n digwydd a phryd, neu cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod.
Os byddai’n haws gennych drefnu apwyntiad ar gyfer unrhyw beth rydyn ni’n ei wneud, mae hynny’n iawn hefyd. Cysylltwch â hangout@platfform.org a byddwn yn cysylltu.
Sut ydw i’n cyrraedd yno?
26-28 Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2DY
3A Tynewydd Road, Y Barri CF62 8HB
Sut ydw i’n gwneud cyswllt?
Rydym ar agor rhwng 3pm a 9pm yn ystod yr wythnos, a rhwng 12pm a 6pm ar benwythnosau.
Os byddai’n haws gennych drefnu apwyntiad ar gyfer unrhyw beth rydyn ni’n ei wneud, mae hynny’n iawn hefyd. Cysylltwch â hangout@platfform.org a byddwn yn cysylltu.
Neu ffoniwch
Caerdydd 07811375417
Y Barri 07385668053
Pwy sy’n ei redeg?
Platfform ydym ni, elusen iechyd meddwl ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn ariannu’r Hangout.
Rydym yn gwneud llawer o bethau mewn perthynas ag iechyd meddwl a lles pobl ifanc. Nid ydym yn hoffi pan fydd pobl ifanc yn cael gwybod beth sydd ei angen arnynt yn syml, neu fod rhywbeth ‘o’i le’ â nhw. I ni, mae’n bwysig iawn gwrando ar bobl, clywed beth maent yn ei ddweud wrthym, a gweithio â phob unigolyn i ddarganfod â’n gilydd pa bethau fydd yn helpu mewn gwirionedd.
Rydym hefyd yn dwlu ar gysylltiad, oherwydd ein bod yn gwybod y gall ynysiad fod yn beth anodd iawn i les. Dyna pam, yn ogystal â chefnogaeth iechyd meddwl, mae gan Yr Hangout grwpiau a ffyrdd eraill i chi gyfarfod â phobl.
Os ydych chi’n gweithio gyda pherson ifanc 11-17 oed yr hoffech ei gyfeirio atom, gallwch gysylltu â ni yma hangout@platfform.org
Rydym yn gweithio’n agos â gwasanaethau eraill y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn eu rhedeg sy’n cefnogi pobl ifanc. Mae hyn yn golygu ein bod yn gallu siarad â’n gilydd i wneud yn siŵr eich bod yn cael y gefnogaeth orau bosibl. Efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth â gwasanaethau eraill os credwn y bydd yn eich helpu chi neu os dymunwch i ni wneud hynny, ond ni fyddwn byth yn rhannu ag unrhyw un nad oes angen iddo/iddi wybod. Gallwch ddarllen mwy am sut rydym yn rhannu gwybodaeth yn ein taflen rhannu data