VOLocity
VOLocity yw ein rhaglen wirfoddoli gyffredinol ar gyfer y sector camddefnyddio sylweddau.
Mae’n golygu y gallwch ddefnyddio’ch sgiliau i wneud gwahaniaeth, i ddysgu sgiliau newydd, i roi hwb i’ch dyfodol, a chwrdd â phobl anhygoel.

‘Gwerth chweil.’ Dyna eiriau cadarn.
Ond mae’n cyfleu i’r dim y gwaith mae ein gwirfoddolwyr yn ei wneud drwy VOLocity.
Does dim angen i chi fod wedi cael profiad personol o gamddefnyddio sylweddau na materion llesiant ehangach i wirfoddoli gyda VOLocity – y cwbl sydd ei angen arnoch yw angerdd dros wneud gwahaniaeth.
Mae yna lu o fudiadau ar draws Caerdydd a’r Fro sy’n cefnogi pobl bob dydd, ac ni fuasent yn gallu gwneud eu gwaith heb y gwirfoddolwyr rydyn ni’n eu darparu. Ar unrhyw adeg, mae gennym fwy na 100 o wirfoddolwyr yn gweithio mewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ledled Cymru.
Wnewch chi elwa o wirfoddoli?
Mae’r hyfforddiant, y sgiliau, y profiad a’r bobl rydych chi’n eu cyfarfod oll yn cyfuno i gynnig profiad gwerthfawr dros ben. Mae gwirfoddoli’n meithrin hyder, yn gwneud i’ch CV sefyll allan, ac yn eich helpu ym myd cyflogaeth. Ac mae hynny oll ar ben gwybod eich bod yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’ch cymuned, ac i’r byd ehangach.
Beth rydyn ni ei angen gennych chi?
Mae gan rai pobl lawer o amser i’w roi. Mae gan rai pobl fywydau prysur iawn. Faint bynnag o amser sydd gennych i’w sbario, fe hoffen ni gael eich help. Yr unig beth rydyn ni’n ei ofyn yw ichi ystyried anghenion y bobl y byddwch yn eu cefnogi, os bydd newid yn eich ymrwymiadau amser ar unrhyw adeg.
Sut mae hyn yn gweithio?
Cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion sydd ar waelod y dudalen hon, ac fe wnawn ni anfon y ffurflen gais berthnasol atoch. Nesaf, byddwn yn eich gwahodd am sgwrs, i weld a yw gwirfoddoli yn y sector camddefnyddio sylweddau’n gweddu i chi. Os felly, fe wnawn ni edrych ar y sgiliau sydd gennych chi a gweld pa fath o waith sy’n gweddu orau ichi. Mae gan bawb alluoedd – rydyn ni am ddod o hyd i’r ffordd orau o ddefnyddio’ch galluoedd chi.
Nesaf, daw hyfforddiant. Byddwn yn rhoi tri diwrnod o hyfforddiant am ddim i chi, i roi sylfaen gadarn i’r hyn y bydd angen ichi ei wybod. Mae hyn yn cynnwys ein cwrs undydd ar Ymwybyddiaeth Camddefnyddio Sylweddau. Os byddwch yn parhau i wirfoddoli, yna fe roddwn ragor o hyfforddiant ichi yn nes ymlaen.
Ar ôl y tri diwrnod hyfforddiant, byddwn yn edrych ar y cyfleoedd gwirfoddoli sydd gennym i’w cynnig ac yn gweithio gyda chi i weld pa fudiad neu wasanaeth fyddai’n gwneud y defnydd gorau o’ch sgiliau chi.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda’n tîm, mae cyfleoedd yn codi yma yn aml hefyd.
Fe wnawn eich cefnogi drwy gydol y gwirfoddoli fyddwch chi’n ei wneud, felly os bydd unrhyw beth nad ydych chi’n sicr ohono, rydyn ni yno i’ch helpu i’w ddatrys.
Un peth arall
Diolch yn fawr. Heb bobl yn gwirfoddoli gyda ni, fydden ni ddim yn gallu gwneud y gwahaniaeth rydyn ni’n ei wneud i bobl. Felly diolch am ein hystyried ni – gan ein tîm, a’r bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw.
T: 029 2052 9002