Teuluoedd CNPT
Pan fydd hi’n galed ar deuluoedd, rydym yn gwybod bod cymorth yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Rydym yn cynnig lle diogel, yn gwrando ar bryderon, ac yn gweithio gyda theuluoedd i fagu perthynas gadarnhaol a dod o hyd i strategaethau lles.
Gyda phwy ydyn ni’n gweithio
Rydym yn gweithio gyda theuluoedd a’u plant (hyd at 25 oed).
Mae’r holl gymorth yn cael ei drafod a’i gytuno gyda’r teulu i wneud yn siŵr ein bod yn cynnig y cymorth cywir ar yr adeg gywir.
Ein cymorth
- Lles emosiynol a meddyliol
- Ffyrdd o fyw ac ymddygiadau
- Perthnasoedd teuluol a chyfathrebu
- Gorbryder/ofn/straen/dicter
- Diffyg hyder neu hunan-barch
- Hwyliau isel neu drallod emosiynol
- Ymlyniad
- Bwlio
- Profedigaeth a Cholled
Dewis y cymorth iawn
Cynnal perthnasoedd teuluol
Mae’r prosiect hwn yn helpu i lunio perthnasoedd teuluol cryfach a gwella cyfathrebu. Mae cymorth ar gael hefyd i gadw plant yn ddiogel ar-lein.
Llesiant emosiynol ac ymdopi â cholled
Mae’r prosiect yn cefnogi datblygiad emosiynol a sgiliau ymdopi pobl ifanc. Mae cymorth ar gael ar gyfer profedigaeth, neu sefyllfaoedd lle mae rhieni’n absennol, wedi gwahanu neu yn y carchar.
Sut mae atgyfeirio
Dim ond trwy Un Man Cyswllt (SPOC) Castell-nedd Port Talbot y gellir atgyfeirio 01639 686802 a spoc@npt.gov.uk