Power Up
Prosiect lles pobl ifanc a gweithredu cymdeithasol yw Power Up, ar gyfer pobl ifanc 10-25 mlwydd oed sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Rydyn ni’n cynnig cefnogaeth lles i bobl ifanc sy’n profi heriau gyda’u hiechyd meddwl. Mae hyn yn cynnwys sesiynau cymorth 1-1, rhaglenni lles, a grwpiau cymdeithasol rheolaidd.
Yn Power Up, rydym ni’n meithrin perthynas i fynd i’r afael â thrawma ac yn darparu cymorth gan ganolbwyntio ar gysylltiad, cymuned a chreadigrwydd.
Mae Power Up yn credu y dylai gwleidyddiaeth fod o fewn cyrraedd holl bobl ifanc. Rydyn ni’n cefnogi newid cymdeithasol dan arweiniad ieuenctid, drwy ymgynghoriadau, grwpiau cynghorol, a chyfathrebu uniongyrchol gyda llywodraethau lleol a chenedlaethol.
Beth rydyn ni’n ei gynnig
- Sesiynau un ac un gydag ymarferwyr lles i unrhyw un rhwng 10 a 25 oed yng Nghaerdydd a’r Fro
- Grwpiau lles Meddwl am dy Feddwl mewn ysgolion a chymunedau
- Grwpiau gweithgareddau ychwanegol, fel ysgrifennu blog a grwpiau creadigol
- Gweithgareddau misol am ddim mewn gwahanol leoliadau
- Cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn newid cymdeithasol ar lefelau lleol a chenedlaethol drwy ymatebion i ymgynghoriad, cyfweliadau ac arolygon
Sut mae cymryd rhan?
Ar gyfer pobl ifanc sy’n chwilio am gymorth un ac un
Os ydych chi’n 10-25 oed ac yn byw yng Nghaerdydd neu Fro Morgannwg, gallwch gyfeirio eich hun i gael cymorth un ac un gyda Power Up gan ddefnyddio ein ffurflen atgyfeirio.
Ar gyfer gweithwyr proffesiynol
Os ydych chi’n cefnogi person ifanc 10-25 oed sy’n byw yng Nghaerdydd neu’r Fro ac yn credu y byddai’n elwa ar gymorth un ac un gan Power Up, gallwch ei atgyfeirio gan ddefnyddio ein ffurflen atgyfeirio.
Os ydych chi’n gweithio mewn ysgol neu grŵp cymunedol ac yr hoffech ofyn am sesiynau lles Meddwl am dy Feddwl ar gyfer y bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw, cysylltwch â PowerUp@platfform.org
Prosiect partneriaeth yw Power Up, Platfform yw’r partner arweiniol gyda:
- EYST
- YMCA Cardiff
- iBme UK
- Llamau
- ProMo Cymru
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
- Cyngor Caerdydd
- Cyngor Bro Morgannwg
- Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Ariannwyd y prosiect gan grant ‘Meddwl Ymlaen’ Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac mae’n gweithio’n agos ochr yn ochr â bwrdd cynghori o bobl ifanc 10-25 oed.