Problemau gydag alcohol, cyffuriau neu sylweddau
Rydym yn cynnig lle diogel ar gyfer cymorth ac arweiniad i oedolion sy’n wynebu heriau iechyd meddwl o ran defnyddio alcohol neu sylweddau.

Beth yw Cwtch?
Gwasanaeth seicolegol yw Cwtch, ar gyfer oedolion sy’n cael anawsterau gyda’u hiechyd meddwl a defnyddio alcohol neu sylweddau. Rydym yn canolbwyntio ar roi ymdeimlad o bwrpas, cymuned a chysylltiad i bobl. Mae ein tîm o seicolegwyr ac ymarferwyr yn darparu cymorth therapiwtig i bobl ar hyd a lled Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot.
Mae Cwtch yn cynnig cyngor a chymorth am ddim mewn sesiynau galw heibio yn Abertawe a Phort Talbot, er mwyn i bobl allu cael gafael ar gymorth uniongyrchol heb orfod dod drwy wasanaeth arall neu eistedd ar restr aros.
Ar gyfer pwy mae e?
Oedolion sy’n byw yn ardaloedd Abertawe, Castell-nedd neu Bort Talbot ac sy’n cael anawsterau gyda’u hiechyd meddwl a defnyddio sylweddau/alcohol Gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y maes ac sy’n awyddus i gael cyngor, cymorth neu hyfforddiant ar faterion
seicolegol neu ystyriol o drawma. Mae cymorth gyda llesiant staff ar gael hefyd.
Beth sydd ar gael?
- Sesiynau galw heibio yn Abertawe a Phort Talbot i roi cyfle i bobl sydd â phrofiad
uniongyrchol gysylltu dros baned, a chael cyngor gan dîm Cwtch yn ôl yr angen - Cefnogi’r gwaith o gysylltu â gwasanaethau lleol eraill
- Gweithgareddau grŵp yn y gymuned er mwyn cysylltu ag eraill
- Gweithdai iechyd meddwl
- Therapi siarad unigol gyda seicolegwyr, cyfarwyddwyr ac ymarferwyr sy’n ystyriol o drawma
- Cefnogaeth i weithwyr proffesiynol drwy ymgynghori, mannau myfyriol, a ffurfio timau.
Cysylltu â ni
Cysylltwch â Thîm Cwtch ar 0331 6302519 neu anfonwch e-bost at cwtchproject@platfform.org.
Am wybodaeth am ffyrdd eraill y gallwn eich cefnogi, ewch i Prosiectau – Platfform.