Cyfrannwch
Llesiant cynaliadwy i bawb, a byd sy’n deall iechyd meddwl: gallwch chi ei helpu i ddigwydd.

Rydym yn gweithio gyda dros 13,000 o bobl bob blwyddyn sy’n wynebu heriau gyda’u hiechyd meddwl. Mae ein hymagwedd yn seiliedig ar ddeall anghenion a chefndir unigol pob person, a’r cryfderau a’r galluoedd personol y gallant eu defnyddio i symud eu hunain ymlaen.
Rydym am barhau â’r gwaith hwn, ond rydym hefyd am gydweithio â sefydliadau eraill i herio systemau sy’n dibynnu ar ddull ‘un maint i bawb’, a chwestiynu sut yr ydym ni fel cymdeithas yn deall ac yn gweithio gydag iechyd meddwl.
Pa bynnag rodd y gallwch ei fforddio, bydd bob amser yn cefnogi ein prosiectau a’r bobl rydym yn gweithio gyda nhw. Gyda’n gilydd, gallwn ddechrau gwneud lles cynaliadwy i bawb yn realiti.