Ymunwch â’n tîm
Ni yw'r elusen ar gyfer iechyd meddwl a newid cymdeithasol.
Rydym yn gweithio gyda phobl sy’n profi heriau gyda’u hiechyd meddwl mewn amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys tai â chymorth, prosiectau i bobl ifanc, cwnsela, defnyddio sylweddau a gwasanaethau cyflogaeth.
Credwn fod lles hirhoedlog yn digwydd trwy ddeall sut y gall bywydau gael eu siapio gan brofiadau trawmatig, nodi cryfderau pobl a chanolbwyntio ar iachâd. Rydym yn gwybod na allwn ‘drwsio’ pobl, ond gallwn gerdded ochr yn ochr â phobl a helpu lle y gallwn ar eu taith.
Rydyn ni’n ymdrechu’n galed i wneud Platfform yn lle gwych i weithio, rydyn ni’n byw ein gwerthoedd a’n cenhadaeth ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud. Dewch o hyd i mwy am ein cyfleoedd gwaith, sut brofiad yw gweithio i ni a mwy yma:
-
Cyfleoedd cyfredol
Cymerwch gip olwg ar y cyfleoedd cyfredol i ymuno â’n tîm.
-
Dyma ni
Daw ein hymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr o bob cefndir, pob un ag angerdd am les cynaliadwy i bawb.
-
Cydraddoldeb: Platfform i bawb
Rydym yn gweithio i fod yn gynghreiriaid effeithiol yn y frwydr yn erbyn hiliaeth, gwahaniaethu ac anghydraddoldeb ar bob lefel o gymdeithas.
-
Hoffech chi ymuno â’n Bwrdd?
We are interested in talking to people from all backgrounds, sectors, work, and life experiences who feel a connection and commitment to our values and purpose.