HomeAmdanom niYmunwch â’n tîmHoffech chi ymuno â’n Bwrdd?

Hoffech chi ymuno â’n Bwrdd?

Mae gennym ddiddordeb mewn siarad gyda phobl o bob cefndir, sector, gwaith a phrofiadau bywyd sy’n teimlo cysylltiad ac ymroddiad i’n gwerthoedd a’n pwrpas.

 Platfform yw’r elusen dros iechyd meddwl a newid cymdeithasol.

Rydym yn gobeithio penodi tri pherson newydd i’n Bwrdd
Ymddiriedolwyr.

Yn Platfform, credwn mewn lles cynaliadwy i bawb. Yn benodol,
dymunwn:

1. Godi ymwybyddiaeth am ddull sy’n ystyriol o drawma o ddeall
trallod meddyliol a meddyliau anarferol, a thynnu’r dull hwn i mewn i’r prif lif. Mae’r dull hwn yn cydnabod effaith tlodi ac anghydraddoldeb ar ein hiechyd meddwl ac mae’n cynnig dewis amgen i’r diwylliant o ddiagnosis seiciatryddol sy’n dominyddu’r maes. Rydym am weld system iechyd meddwl sy’n ystyriol o drawma yng Nghymru a thu hwnt.

2. Wneud ein ‘systemau helpu’ weithio’n well i bobl sy’n mynd drwy’r cyfnodau anoddaf. Rydym am weld symudiad oddi wrth ffyrdd o weithio didosturi, creulon, sy’n canolbwyntio ar fethiannau, i ffyrdd sy’n dosturiol, yn garedig a thrugarog, ac sy’n canolbwyntio ar gryfderau.

Lawrlwythwch y pecyn recriwtio.


Croeso gan ein Cadeirydd, Ubongabasi Obot

Annwyl ymgeisydd,

Diolch ichi am eich diddordeb mewn bod yn Ymddiriedolwr gyda Platfform ac am ddangos diddordeb yn ein gwaith. Bwriadwn benodi hyd at dri Ymddiriedolwr newydd i’n Bwrdd oherwydd bydd dau o’n Hymddiriedolwyr hirsefydlog yn sefyll i lawr yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ddiwedd y flwyddyn hon (2022). Gobeithio bydd yr wybodaeth yn y pecyn hwn yn ddefnyddiol ichi wrth wneud eich cais.

Ymunais â Bwrdd Platfform fel Darpar Gadeirydd ym mis Medi 2021, ar ôl cael fy nenu gan y gwaith y mae’r sefydliad yn ei wneud ym maes iechyd meddwl. Peth arall a wnaeth argraff arnaf i oedd mor eglur ac uchelgeisiol yw strategaeth y sefydliad, a’i ymrwymiad amlwg i fod yn sefydliad gwrth-hiliol, gan ddatgan yn eglur yr angen i wneud llawer mwy a bod yn llawer gwell. Fe wnaeth yr onestrwydd a’r ymrwymiad ill dau argraff arnaf.

Symudais i rôl y Cadeirydd ym mis Mawrth eleni, yn dilyn yn ôl troed Debbie Green, un o’n Hymddiriedolwyr hirsefydlog sy’n camu i lawr ym mis Medi. Cefais help graslon gan Debbie i ymgyfarwyddo â’r rôl. Rwy’n falch o fod yn rhan o arweinyddiaeth sefydliad sy’n wirioneddol ymdrechu i fyw yn unol â’n gwerthoedd ym mhopeth a wnawn. Rydym yn gweithio’n galed i gyflawni ein huchelgais. Mae’n bleser gennyf hefyd ddweud ein bod yn gwneud y gwaith gyda gwên ar ein hwynebau a gyda charedigrwydd a hiwmor, hyd yn oed pan fo pethau’n anodd. Rydym yn gweithio’n galed, ac yn chwerthin yn aml.

I mi, diwylliant ein trefn Lywodraethu sy’n gosod y nod o ran yr hyn a ddisgwyliwn gan weddill tîm Platfform – ein gwerthoedd o ymgysylltiad, tosturi, dewrder a chwilfrydedd yw ein ffodd o weithio gyda’n gilydd. Defnyddiwn gwmpas yr Amgylchedd Meddylgar yn aml, gan wneud ein gorau i fod yn groesawgar, yn agored, yn onest, ac yn garedig â’n gilydd. Mae ein cyfarfodydd, er eu bod yn strwythuredig ac yn llawn ffocws, yn ymlaciol ac yn gymharol anffurfiol, ac rydym yn cyfarfod yn rheolaidd – bob chwe wythnos. Disgwyliwn bapurau a chyflwyniadau o safon uchel gan ein Prif Swyddog Gweithredol a’r Tîm Gweithredol, ac rydym yn cadw momentwm wrth ymdrin â’r gwaith

Yn wir, mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn anodd, yn enwedig i’r 8,000 a mwy o bobl yr ydym yn eu cefnogi bob blwyddyn. Fodd bynnag, rydym yn dod allan o’r pandemig mewn sefyllfa gadarn. Rydym yn datblygu ein gweledigaeth ar gyfer 2040 a’n maniffesto dros newid, a fydd yn lansio yn yr hydref, ac rydym wrthi’n mynd drwy weddnewidiad mewnol cyffrous i fod yn sefydliad sy’n wirioneddol seiliedig ar gryfderau ac ystyriol o drawma ym mhopeth a wnawn, ac rydym yn rhoi dulliau newydd o ymdrin â newid
systemau a sut rydyn ni’n cyflawni ein gwaith ar brawf, ac rydym yn tyfu. Mae’n deg dweud nad oes munud diflas i’w gael yn Platfform, ac os byddwch yn llwyddiannus yn eich cais, fe fyddech yn ymuno â ni mewn cyfnod cyffrous sy’n teimlo’n llawn potensial yn ogystal â llawn heriau.

Diolchaf ichi eto am eich diddordeb yn ein gwaith a dymunwn yn dda ichi gyda’ch cais. Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl, gweler y pecyn recriwtio atodedig.

Gyda fy nymuniadau gorau,

Ubongabasi Obot

Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr