Adroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau
Mae Platfform yn gyflogwr achrededig Cyflog Byw Gwirioneddol ac mae wedi ymrwymo i gyflog teg a chyfartal i’n pobl.
Rydym yn falch iawn o weld bod Platfform yn un o’r ychydig gyflogwyr sydd â bwlch cyflog rhwng y rhywiau o dan 4%.

Trosolwg
Mae’n ofynnol i bob sefydliad sydd â thros 250 o gyflogeion gyhoeddi ac adrodd ar ffigurau penodol am eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau, gan edrych yn benodol ar y cyflog fesul awr cyfartalog (neu gymedrig) a dderbynnir gan y ddau ryw, y cyflog canolrifol (canol) fesul awr a dderbynnir gan y ddau ryw, y bwlch cyflog bonws rhwng y rhywiau (os yw’n berthnasol) a’r cyflog fesul chwartel.
Beth yw’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau?
Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn fesur o’r gwahaniaeth yn y cyflog cyfartalog rhwng dynion a menywod, waeth beth fo natur eu gwaith, ar draws y sefydliad cyfan. Mae hyn fel arfer yn cael ei fynegi fel canran o gyflog dynion, gyda ffigwr positif o blaid gwrywod, a ffigwr negyddol o blaid menywod.
Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r ystadegau bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer Platfform ar adeg benodol (5ed Ebrill 2024) ac mae’n seiliedig ar dâl ‘cyflogeion cyflog llawn perthnasol’ (gan gynnwys staff wrth gefn).