Teuluoedd CNPT

Pan fydd hi’n galed ar deuluoedd, rydym yn gwybod bod cymorth yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Rydym yn cynnig lle diogel, yn gwrando ar bryderon, ac yn gweithio gyda theuluoedd i fagu perthynas gadarnhaol a dod o hyd i strategaethau lles.

Gyda phwy ydyn ni’n gweithio

Rydym yn gweithio gyda theuluoedd a’u plant (hyd at 25 oed).

Mae’r holl gymorth yn cael ei drafod a’i gytuno gyda’r teulu i wneud yn siŵr ein bod yn cynnig y cymorth cywir ar yr adeg gywir.

Ein cymorth

  • Lles emosiynol a meddyliol
  • Ffyrdd o fyw ac ymddygiadau
  • Perthnasoedd teuluol a chyfathrebu
  • Gorbryder/ofn/straen/dicter
  • Diffyg hyder neu hunan-barch
  • Hwyliau isel neu drallod emosiynol
  • Ymlyniad
  • Bwlio
  • Profedigaeth a Cholled

Dewis y cymorth iawn

Cynnal perthnasoedd teuluol

Mae’r prosiect hwn yn helpu i lunio perthnasoedd teuluol cryfach a gwella cyfathrebu. Mae cymorth ar gael hefyd i gadw plant yn ddiogel ar-lein.

Llesiant emosiynol ac ymdopi â cholled

Mae’r prosiect yn cefnogi datblygiad emosiynol a sgiliau ymdopi pobl ifanc. Mae cymorth ar gael ar gyfer profedigaeth, neu sefyllfaoedd lle mae rhieni’n absennol, wedi gwahanu neu yn y carchar.

Sut mae atgyfeirio

Dim ond trwy Un Man Cyswllt (SPOC) Castell-nedd Port Talbot y gellir atgyfeirio 01639 686802 a spoc@npt.gov.uk

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn

  • Platfform i bobl ifanc

    Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc 13-25 oed sy'n wynebu heriau gyda'u hiechyd meddwl. Mae ein prosiectau yn cynnig cyfuniad o raglenni lles, cefnogaeth cymheiriaid, gweithdai a chyrsiau, cefnogaeth 1:1 a chyfleoedd gwirfoddoli.