Power Up
Prosiect lles pobl ifanc a gweithredu cymdeithasol yw Power Up, ar gyfer pobl ifanc 10-25 mlwydd oed sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Rydyn ni’n cynnig cefnogaeth lles i bobl ifanc sy’n profi heriau gyda’u hiechyd meddwl. Mae hyn yn cynnwys sesiynau cymorth 1-1, rhaglenni lles, a grwpiau cymdeithasol rheolaidd.
Yn Power Up, rydym ni’n meithrin perthynas i fynd i’r afael â thrawma ac yn darparu cymorth gan ganolbwyntio ar gysylltiad, cymuned a chreadigrwydd.
Mae Power Up yn credu y dylai gwleidyddiaeth fod o fewn cyrraedd holl bobl ifanc. Rydyn ni’n cefnogi newid cymdeithasol dan arweiniad ieuenctid, drwy ymgynghoriadau, grwpiau cynghorol, a chyfathrebu uniongyrchol gyda llywodraethau lleol a chenedlaethol.
Gallwch gyfeirio eich hun i Power Up fel person ifanc neu gall asiantaeth eich cyfeirio atom. Gellir gwneud atgyfeiriad drwy ddefnyddio’r ffurflen gysylltiedig yma
Eisiau cymryd rhan? Cysyllta â ni powerup@platfform.org
Prosiect partneriaeth yw Power Up, Platfform yw’r partner arweiniol gyda:
- EYST
- YMCA Cardiff
- iBme UK
- Llamau
- ProMo Cymru
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
- Cyngor Caerdydd
- Cyngor Bro Morgannwg
- Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.