Arferion cwsg iach
I wella iechyd corfforol a meddyliol yn gyffredinol, mae angen cwsg o ansawdd da arnom. Gall diffyg cwsg wneud unrhyw anawsterau iechyd meddwl yn fwy amlwg a gall eich gwneud yn wael yn gorfforol hefyd.
Wrth greu gwell arferion amser gwely i’n helpu i gysgu’n well, gallwn wneud yn siŵr bod ein cyrff yn manteisio i’r eithaf ar amser i orffwys, a rheoli a gwella effaith y pethau a all ddigwydd yn ein bywydau i’n herio a rhwystro ein llesiant emosiynol.
Gall gwell arferion cwsg wella ein gallu i reoli straen, creu gwell perthynas â phobl, ein gwneud yn fwy cynhyrchiol a helpu ein teimlad cyffredinol o lesiant.
Cynghorion ar gyfer cysgu’n well:
1. Cael trefn arnoch eich hunan, fel bod gennych amser gwely penodol bob dydd
2. Creu lle tawel, braf i gysgu heb bethau i’ch symbylu
3. Osgoi sgriniau digidol am o leiaf awr cyn mynd i’r gwely [ffôn, teledu, gliniadur]
4. Rhoi eich ffôn ar ‘tawel’ neu ‘airplane mode’ yn ystod y nos
5. Bwyta’n iach
6. Torri i lawr ar alcohol ac ysmygu