Bod yn drefnus

Mae sawl ffordd y gall bod yn fwy trefnus wella eich iechyd meddwl. Pan fyddwn ni’n cynllunio a chreu strwythur i’r ffordd rydyn ni’n gweithio neu’n trefnu ein bywyd bob dydd, gallwn weld buddion sy’n gwella ein cwsg, yn gwella ein perthynas ag eraill, ac yn gwella ein gwaith a’n hiechyd.

Mae cynllunio ein hwythnos yn ein galluogi i benderfynu beth sydd angen i ni ei wneud, mae’n helpu i leihau’r straen o reoli bywyd prysur a hefyd yn ei gwneud yn haws i drefnu amser ar gyfer llesiant yn eich diwrnod/wythnos. Ar adegau, gallwn deimlo bod meddyliau am ymdopi â’r holl bethau y mae disgwyl i ni eu gwneud yn mynd yn drech na ni, ond gallwn osgoi’r straen a chreu ychydig o dawelwch yn ein bywydau prysur trwy greu cynllun effeithiol wedi’i drefnu’n ofalus.

Dyma rai camau syml i fod yn fwy trefnus a rhyddhau amser:

1. Cynlluniwch eich prydau bwyd a’ch dillad am yr wythnos
2. Trefnwch eich dyddiadur
3. Twtiwch eich cartref
4. Rhowch ddigon o amser i wneud eich gwaith/astudio
5. Cynlluniwch weithgareddau llesiant bob wythnos

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn

  • Amdanom ni

    Rydym yn blatfform ar gyfer cysylltu, trawsnewid a newid cymdeithasol.

  • Storiâu

    This is the excerpt for Stories of recovery