HomeLlesStoriâuStori Laura

Stori Laura

Rwyf am i bobl gofio nad ydynt byth ar eu pennau eu hunain

Fe wnes i fynd yn wael pan oeddwn i’n 18. Roeddwn i yn fy ail flwyddyn yn y coleg ac yn llosgi’r gannwyll ar y ddau ben, roeddwn i’n aros i fyny trwy’r nos yn astudio ar gyfer fy arholiadau ac yn y diwedd fe wnes i dorri i lawr, rwy’n meddwl mai gormod o bob dim oedd y rheswm, a bu’n rhaid i mi fynd i’r ysbyty.

Mae cefnogaeth fy nheulu wedi bod mor bwysig, maen nhw’n fy adnabod y tu mewn allan. Rwyf hefyd wedi cael llawer o gefnogaeth gan Platfform [Gofal gynt] dros y blynyddoedd ac wedi bod yn rhan o’r prosiect Llwybrau.

Rwyf wedi gweithio erioed, er gwaethaf cael trafferth gyda fy iechyd meddwl. Dros y blynyddoedd rwyf wedi dysgu fy mod angen trefn a strwythur i gadw’n iach.

Helpodd Julie o Platfform fi’n ddiweddar gyda newid yn fy swydd gan fod angen i mi gael rôl a oedd yn caniatáu patrwm bywyd mwy cytbwys i mi. Aeth Julie gyda fi i’r cyfarfodydd Iechyd Galwedigaethol i’n helpu i weithio allan beth oedd ei angen arnaf. Fe wnaethom yn siŵr bod fy mhatrymau sifft yn addas i mi, rwy’n gweithio patrwm oriau cadarn nawr, sydd yn fy helpu i reoli fy iechyd meddwl.

Rwyf wedi derbyn bod y salwch hwn yn rhan ohonof i ac rwyf wedi dysgu llawer o’i herwydd. Roedd yn rhaid i mi ddyfalbarhau gyda’r feddyginiaeth gan ei bod wedi cymryd amser hir i ddod o hyd i’r cytbwysedd iawn i mi.

Rwyf hefyd wedi dysgu peidio poeni gymaint a byw er mwyn heddiw – mae’n swnio’n ‘gawslyd’ ond mae wirioneddol yn fy helpu. Rwy’n hoffi chwarae bowls yn fy amser rhydd, awgrymodd ffrind i mi roi cynnig arni ac felly mi wnes i a dwi’n ei fwynhau’n arw. Rwy’n credu mai tua 60 yw’r oedran cyfartalog, a dim ond 30 wyf i.

Rwyf wedi rhoi cynnig ar gymaint o bethau ers i mi fod mewn cysylltiad â Platfform, rwy’n meddwl mai’r hyn sydd ei angen yw rhoi cynnig arni! Mae’n help mawr i ganolbwyntio eich egni ar rywbeth gwahanol.

Y prif beth rwy’n credu y mae angen i bobl ei gofio os ydyn nhw’n mynd yn wael yw nad ydyn nhw byth ar eu pennau eu hunain. Rwyf hefyd wedi dysgu peidio â chymryd yn ganiataol y bydd pobl yn fy meirniadu. Yn fy mhrofiad i, roeddwn yn wastad yn disgwyl i bobl fy meirniadu ond mewn gwirionedd roedd pobl yn ofalgar iawn ac eisiau helpu.

Mae Platfform wedi fy helpu i adennill fy annibyniaeth ar ôl i mi fynd yn wael. Pan fo rhywun yn mynd yn wael, mae’n hawdd anghofio pwy ydych chi ond mae Platfform wedi helpu i mi fod yn fi fy hun eto, ac wedi fy nysgu i chwerthin a gwenu eto.