HomeLlesStoriâuStori Cath

Stori Cath

Ymuno â chydweithfa fwyd oedd un o’r pethau gorau wnes i er lles fy iechyd meddwl

Cefais fy nghyfeirio at Platfform trwy fy Ngwasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol lleol. Roeddwn wedi cael hyrddiau o iselder yn y gorffennol ond, yn dilyn blwyddyn arbennig o anodd, pan ddaeth fy mhriodas i ben a chafodd fy mam ddiagnosis o ganser, roedd fy iechyd meddwl yn waeth nag erioed, ac fe gollais fy swydd o’i herwydd.

Dechreuais boeni am ymdopi’n ariannol; taliadau morgais, biliau a chefnogi fy merch, a gan nad oeddwn i erioed wedi defnyddio’r system fudd-daliadau, roedd y cwbl yn drech na fi. Dyna pryd y cefais fy rhoi mewn cysylltiad â Platfform [Gofal gynt].

Y rhaglen Cefnogaeth Tenantiaeth oedd fy mhrofiad cyntaf o’r mudiad, ac roedd yn ardderchog. Roedd y gwasanaeth yn cynnig cyngor ymarferol i fy ngalluogi i weithio allan pa gefnogaeth ariannol roedd gennyf hawl i’w dderbyn. Mae deall y byd budd-daliadau yn gallu bod yn anodd i unrhyw un, ond os ydych chi’n wael ac o dan straen ofnadwy mae’r gefnogaeth hon yn wirioneddol hanfodol.

Wedyn, fe gefais i gyswllt â Llwybrau i Gyflogaeth. Dyma oedd y gwasanaeth mwyaf anhygoel i mi ac mae’r bobl roeddwn i’n gweithio gyda nhw wedi bod yn help enfawr i mi yn y tymor hir. O ganlyniad i golli fy swydd a bod yn wael roeddwn i wedi mynd yn unig, doeddwn i ddim yn teimlo mod i mewn sefyllfa ddigon cryf i gymdeithasu neu gyfarfod pobl newydd ond fe wnaeth Julie o Llwybrau gwrdd â mi ac awgrymu ambell i ddigwyddiad y gallem ein dwy eu mynych, a helpodd i mi deimlo fy mod yn cael fy nghefnogi.

Cefais fy nghyflwyno i’r gydweithfa fwyd yng Nghoed-duon a dyma’r peth gorau sydd wedi digwydd i fy iechyd meddwl. Fuaswn i byth wedi mynd i grŵp cefnogaeth fel y cyfryw, ond mae’r gydweithfa fwyd fel math gwahanol o grŵp cefnogaeth. Mae pobl o bob cefndir yn mynd yno, ac mae gennym oll un peth yn gyffredin; ein bod wedi ein heffeithio gan anawsterau iechyd meddwl mewn rhyw ffordd. Rwy’n teimlo mod i nawr wedi cwrdd â ‘fy mhobl i’, os chi’n gwybod beth rwy’n ei feddwl?

Fuaswn i byth wedi mynd i grŵp cefnogaeth fel y cyfryw, ond mae’r gydweithfa fwyd fel math gwahanol o grŵp cefnogaeth

Dros y misoedd, fe ddois i adnabod pobl yn well a dechreuais sylweddoli bod y bobl o fy nghwmpas yn deall y peth, ac felly yn fy neall i. Roedden nhw wirioneddol yn malio am sut roeddwn i’n teimlo ac roedden nhw’n gweld pan nad oeddwn i mewn hwyliau da, weithiau hyd yn oed cyn i mi sylweddoli. Mae yna amrywiaeth o weithgareddau ar gael ac mae hynny’n wych achos gallwn oll rannu sgiliau a dysgu pethau newydd, ac rwy’n gallu ymarfer pethau rwy’n eu mwynhau, fel celf a chrosio.

Erbyn hyn, rwyf wedi bod yn gwirfoddoli i Platfform am dros dair blynedd a hanner. Mae hyn wedi bod yn berffaith i mi gan nad wyf dan bwysau, rwy’n gallu gwneud pethau yn fy amser fy hun a magu hyder yn raddol.

Cefais fy helpu gan wasanaethau Platfform trwy edrych ar fy anghenion fel person cyfan, nid dim ond y pethau roeddwn i angen help gyda nhw, ond y pethau roeddwn i’n mwynhau eu gwneud, gweld beth oedd fy niddordebau a fy nghefnogi i’w dilyn.

Pan fo’ch iechyd meddwl yn dioddef, yn aml mae angen i chi edrych ar holl agweddau eich bywyd er mwyn ailadeiladu a chyrraedd gwell cytbwysedd

Dydw i ddim yn teimlo fod popeth wedi’i ‘drwsio’ ond rwyf wedi sylweddoli bod fy iechyd meddwl yn rhywbeth y mae’n rhaid i mi weithio arno a’i gynnal. Rwyf eisiau bod mewn gwaith yn y pen draw ac mae’r gefnogaeth rwyf wedi’i gael ynghyd â gwirfoddoli yn fy helpu i weithio tuag at hynny pan fyddaf i’n barod.

Dysgwch fwy am ein prosiectau cymunedol yma.