HomeLlesStoriâuStori Barrie

Stori Barrie

Rwyf eisiau codi ymwybyddiaeth am iselder er mwyn i fwy o bobl sylweddoli nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain a bod help ar gael.

Rwy’n agored am fy mhrofiadau gydag iselder a gorbryder gan fy mod i eisiau i bobl sylweddoli bod unrhyw un yn gallu ei gael o, ’dyw iselder ddim yn gwahaniaethu. Rwy’n 6 troedfedd, ac yn 20 stôn, a fuasai pobl ddim yn meddwl, o edrych arnaf i, mod i wedi cael y trafferthion hyn, ond rwy’n meddwl ei bod yn bwysig cofio na fedrwch chi bob amser weld beth mae rhywun yn mynd trwyddo.

Rwy’n cael dyddiau pan rwy’n teimlo’n ddiwerth ac mae’n anodd hyd yn oed codi o’r gwely, gallaf hefyd ei chael hi’n anodd disgyn i gysgu, yn bennaf am fy mod yn gor-feddwl ac yn poeni ac rwyf wedi cael trafferth gyda hyn am y rhan fwyaf o fy mywyd fel oedolyn.

Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â’r tîm Llwybrau o Platfform am 6 blynedd nawr ac mae’r gefnogaeth y mae’r mudiad wedi’i roi i mi wedi fy helpu i fagu hyder, i gredu ynof fi fy hun ac i wireddu fy mhotensial. Er mod i’n cael anhawster, rwy’n gwybod nawr y gallaf helpu pobl eraill yn ogystal â helpu fi fy hun.

Rwyf wedi cwblhau cyrsiau ar nifer o bynciau yn cynnwys hylendid bwyd a thechnoleg gwybodaeth. Mae’r rhain i gyd wedi helpu i wella fy hunanhyder a’i gwneud yn haws i mi adael y tŷ ar y dyddiau anodd. A dweud y gwir, un noswaith ar ôl mynychu fy nghwrs technoleg gwybodaeth oedd y noson y gallais helpu menyw ifanc a oedd mewn perygl o niweidio’i hun.

Roeddwn i’n cerdded adref ac fe welais i nifer o geir wedi’u parcio ar bont a phobl yn hel i edrych ar rywbeth. Wrth nesáu, gwelais dri dyn yn siarad gyda menyw ifanc a oedd yn eistedd ar silff ar ben y bont; roedd y dynion wedi defnyddio strap o’u fan i ddiogelu’r fenyw, ond doedden nhw ddim yn gwybod be i’w ddweud wrthi. Roedd yn amlwg ei bod mewn trallod ac felly fe ddringais i dros y rheiliau i weld a allwn i helpu.

Gorweddais i lawr ar y llawr wrth ymyl y fenyw ifanc, a gafael yn ei llaw. Fe wnes i siarad am fy mhrofiadau o iselder a gorbryder. Roeddwn eisiau iddi wybod mod i’n gwybod sut mae’n teimlo i ddioddef, a bod help a chefnogaeth ar gael, a cheisiais ei hannog i feddwl yn bositif am y dyfodol. Doedd hi ddim yn ymateb, ond gwasgodd fy llaw yn dynn wrth i mi barhau i siarad gyda hi. Yna, cyrhaeddodd yr heddlu, y parafeddygon a’r injan dân a’i helpu hi i gyrraedd diogelwch. Roeddwn i’n falch o allu rhoi cysur iddi tra’r oedden ni’n aros am help.

Roeddwn i wedi dychryn braidd wedyn, ond siaradais gyda’r tîm yn Platfform ac fe wnaethon nhw wneud yn siŵr fy mod i’n iawn a chynnig cefnogaeth.

Cwpl o wythnosau’n ddiweddarach, fe gefais i lythyr gan yr Arolygydd Carl Williams o Heddlu Gwent i ddiolch i mi am fy newrder. Dywedodd y llythyr, ‘Nid yw plismona a gwarchod y cyhoedd yn rhywbeth y gallwn ni yn Heddlu Gwent ei wneud ar ein pennau’n hunain ac rydym bob amser yn ddiolchgar pan fo pobl fel chi yn fodlon ac yn gallu rhoi cymorth. Felly, roeddwn eisiau cysylltu â chi yn bersonol i fynegi fy niolch a gwerthfawrogiad i chi; fe allech fod wedi cerdded heibio, ond does dim amheuaeth fod yr hyn a wnaethoch wedi achub y fenyw hon ac fe ddylech fod yn falch iawn o hyn.’

Roeddwn i wrth fy modd. Mae’n beth braf iawn derbyn diolch fel hyn. Tynnais lun o’r llythyr a’i roi ar Facebook – chefais i erioed gymaint o sylwadau neis gan gymaint o bobl.

Rwyf eisiau codi ymwybyddiaeth fel bod mwy o bobl yn gallu sylweddoli nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain a bod help ar gael. Rwy’n gwybod beth sy’n fy helpu i deimlo’n well; fy nheulu; fy nithoedd a neiod – rwyf wrth fy modd yn treulio amser gyda nhw. Mae gen i anifeiliaid anwes sy’n gysur mawr i mi hefyd. Rwy’n mwynhau mynd i bysgota ac mae cerdded yn helpu i glirio fy mhen. Rwyf hefyd yn teimlo fod darllen dyfyniadau cadarnhaol yn helpu i godi fy ysbryd ac mae gen i CD am ymwybyddiaeth ofalgar.

Rwy’n teimlo os gallaf feddwl am un peth rwy’n hoff ohono pan fydda i’n meddwl am rywbeth ofnadwy, mae’n gallu bod yn help mawr i ddod â fi at fy nghoed

Felly, os rwy’n teimlo’n ofnadwy o ddrwg, rwy’n meddwl am fy nithoedd a neiod a gall hynny fy nhynnu’n ôl i feddylfryd da.

Cliciwch yma i ddysgu mwy am Llwybrau i Gyflogaeth.

Rwy’n meddwl y dylai pawb ddod o hyd i’r un peth hwnnw i feddwl amdano sy’n gallu dod â nhw’n ôl o le tywyll; gallai fod yn unrhyw beth, ond rhywbeth sy’n eich llenwi â gobaith i’ch helpu drwyddi