HomeNewid systemYmchwil

Ymchwil

Mae llawer o’r dialog o gwmpas iechyd meddwl yn feddygol ei natur, ac wedi’i ffurfio o amgylch patrwm diagnosis seiciatryddol.

Mae yna ffyrdd eraill o wneud synnwyr o’r hyn a allai fod yn digwydd i chi a chredwn ei bod yn bwysig rhannu’r wybodaeth i’ch galluogi i wneud y dewisiadau rydych chi’n credu sydd orau i chi.

 

 

Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod ac Iechyd Meddwl

Croesawn y pwyslais o fewn ymchwil diweddar ym maes Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (Adverse Childhood Experiences/ACE) ar bwysigrwydd cysylltiadau cymunedol wrth greu cefnogaeth sy’n canolbwyntio ar wella ar gyfer pobl a gafodd ACE yn ogystal â’r galw amlwg am wasanaethau cyhoeddus wedi’u llywio gan drawma.

Profiadau trawmatig sy’n digwydd cyn 18 mlwydd oed ac sy’n gallu effeithio ar hyd bywyd person yw ACE. Dangosodd canfyddiadau astudiaeth genedlaethol ar hyd a lled Cymru bod oedolion a oedd wedi dioddef pedwar math neu fwy o ACE bron i 10 gwaith yn fwy tebygol o fod wedi teimlo fel lladd eu hunain neu wedi hunan-niweidio na’r rhai nad oeddent wedi cael profiad o’r un o gwbl.

Canfu’r astudiaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor y gall rhai mesurau cymunedol syml helpu i fagu gwytnwch, sy’n gallu helpu i warchod unigolion rhag datblygu’r problemau iechyd meddwl y gall ACE eu hachosi.

“Roedd magu gwytnwch trwy allu cyrraedd at oedolyn y gellid ymddiried ynddynt yn ystod plentyndod, ynghyd â ffrindiau cefnogol a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol, fel chwaraeon, yn lleihau’r risgiau o ddatblygu salwch meddwl; hyd yn oed i’r rhai a oedd wedi cael profiad o lefelau uchel o ACE.”

“Yn gyffredinol, roedd cael ffrindiau cefnogol, cyfleoedd ar gyfer cyfranogiad cymunedol, pobl i’w hedmygu a ffynonellau eraill o wytnwch yn ystod plentyndod yn arwain at leihad mewn salwch meddwl cyfredol ymhlith oedolion a oedd wedi cael pedwar ACE neu fwy gan dros hanner, o 29 y cant i 14 y cant, a lleihad mewn bod wedi teimlo fel lladd eu hunain neu hunan-niweidio o 39 y cant i 17 y cant.”

Mae’r dystiolaeth hon yn dangos mor bwysig yw cymuned wrth reoli materion iechyd meddwl, a bod perthyn i gymuned a theimlo fel rhan werthfawr ohoni yn gallu helpu pobl i oresgyn a rheoli eu trafferthion iechyd meddwl a symud tuag at adferiad cadarnhaol.

Mae gwaith Platfform yn canolbwyntio ar gysylltu pobl â’u cymunedau lleol, chwilio am gyfleoedd i bobl hybu eu hunan-barch a hyder trwy rannu ymdrechion a phrofiadau cymunedol.

Canolbwyntio ar gryfderau pobl

Yn ein gwaith o ddydd i ddydd, rhaid i’n gwaith ar newid y system fod yn ddeublyg a rhedeg law yn llaw: o fewn Platfform, a thu hwnt. Trwy gryfhau arfer da a myfyrio ar ein heriau, gallwn greu newid ar sawl lefel, ond yn bwysicaf oll ar gyfer pobl sydd angen cymorth yn ystod cyfnodau heriol yn eu bywydau.

Mae ein dull wedi’i seilio ar asedau yn golygu ein bod yn canolbwyntio ar gryfderau a galluoedd y bobl a’r cymunedau a gefnogwn.

Credwn fod gan bob un ohonom gryfderau unigryw sydd wedi ein galluogi i gyrraedd ein sefyllfa heddiw. Yn aml, pan fyddwn ni’n cael anhawster gyda’n hiechyd meddwl neu heriau eraill, rydym yn anghofio mor gryf yr ydym ni, yr anawsterau rydym eisoes wedi’u goresgyn. Rydym yn gweithio’n agos gyda phobl i ganfod a datblygu eu cryfderau.

Mae gennym ddiddordeb mewn Datblygu Cymunedol ar Sail Asedau, dull o ddatblygu cymunedol cynaliadwy wedi’i yrru gan gymunedau, a ddisgrifiwyd gan Nurture Development fel cred bod modd i gymunedau yrru’r broses ddatblygu eu hunain trwy ganfod a datblygu ar asedau neu gryfderau anhysbys.

Dysgwch fwy am y dull hwn yma.