HomeNewid systemCanolbwyntio ar gryfderau pobl

Canolbwyntio ar gryfderau pobl

Mae ein dull sydd wedi’i seilio ar asedau yn golygu ein bod yn canolbwyntio ar gryfderau a galluoedd y bobl a’r cymunedau a gefnogwn.

Yn ein gwaith o ddydd i ddydd, rhaid i’n gwaith ar newid y system fod yn ddeublyg a rhedeg law yn llaw: o fewn Platfform, a thu hwnt. Trwy gryfhau arfer da a myfyrio ar ein heriau, gallwn greu newid ar sawl lefel, ond yn bwysicaf oll ar gyfer pobl sydd angen cymorth yn ystod cyfnodau heriol yn eu bywydau.

Mae ein dull sydd wedi’i seilio ar asedau yn golygu ein bod yn canolbwyntio ar gryfderau a galluoedd y bobl a’r cymunedau a gefnogwn.

Credwn fod gan bob un ohonom gryfderau unigryw sydd wedi ein galluogi i gyrraedd ein sefyllfa heddiw. Yn aml, pan fyddwn ni’n cael anhawster gyda’n hiechyd meddwl neu heriau eraill, rydym yn anghofio mor gryf yr ydym ni, yr anawsterau rydym eisoes wedi’u goresgyn. Rydym yn gweithio’n agos gyda phobl i ganfod a datblygu eu cryfderau.

Mae gennym ddiddordeb mewn Datblygu Cymunedol ar Sail Asedau, dull o ddatblygu cymunedol cynaliadwy wedi’i yrru gan gymunedau, a ddisgrifiwyd gan Nurture Development fel cred bod modd i gymunedau yrru’r broses ddatblygu eu hunain trwy ganfod a datblygu ar asedau neu gryfderau anhysbys.

Dysgwch fwy am y dull hwn yma.