Sgiliau a chyflogaeth
Gall ein tîm Gwasanaeth Di-waith weithio gyda chi ar eich uchelgais o ran cyflogaeth a’ch lles. Gyda’n gilydd, byddwch yn dod o hyd i ffyrdd y gallwch fagu hyder, gwella eich iechyd meddwl, a chael mynediad i gyfleoedd hyfforddi a gwirfoddoli.
Caerdydd
Llwybrau i Waith
Cymorth ac arweiniad wrth i chi fagu hyder, datblygu eich sgiliau, a dod o hyd i’ch llwybr ymlaen.
Mae’r Prosiect Llwybrau i Waith yn canolbwyntio ar eich nodau, eich cryfderau a’ch galluoedd. Mae’n ymwneud â goresgyn yr heriau rydych chi’n eu hwynebu, dysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch a magu’r hyder sydd ei eisiau arnoch.
Ar gyfer pobl sy’n mynd drwy gyfnod anodd gyda’u hiechyd meddwl, ac sydd eisiau gwneud cysylltiadau newydd, magu eu hyder a chanolbwyntio ar eu lles.
Ar gael i’r canlynol:
- Pobl sy’n byw yn Caerdydd
- Pobl ifanc rhwng 16-24 oed sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
- Pobl 25 oed neu hŷn sydd ddim mewn cyflogaeth.
Dewch i ni ddechrau arni:
Y Gwasanaeth Di-waith Gwent
Bwrdeistref Caerffili, Torfaen, Blaenau Gwent, Casnewydd a Sir Fynwy
Dod o hyd i’ch cam nesaf
Os ydych wedi bod yn ddi-waith oherwydd heriau gyda’ch iechyd meddwl, neu oherwydd eich bod wedi cael problemau defnyddio sylweddau, gallwn eich helpu i ddod o hyd i’ch cam nesaf.
Gallai hynny fod yn lleoliadau gwaith, hyfforddiant, gwirfoddoli neu gyfleoedd eraill i ddatblygu eich sgiliau a’ch hyder. Rydym yn canolbwyntio ar eich nodau, yn ogystal â’r cryfderau a’r galluoedd sydd gennych a fydd yn eich helpu i symud ymlaen.
Mae’r tîm Gwasanaeth Di-waith yn darparu gwasanaeth mentora cymheiriaid 1-1 ar ddull cyfannol sy’n seiliedig ar asedau. Rydym yn cadw at werthoedd Platfform a byddwn yn eich cefnogi i fod yn ddewr, yn chwilfrydig, i gysylltu ag eraill a byddwn yn dangos tosturi ar hyd y daith.
Gallwn gynnig cefnogaeth os:
- Ydych chi’n byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, Casnewydd, Blaenau Gwent, Torfaen neu Sir Fynwy, a
- Rhwng 16 a 24 oed, a heb fod mewn addysg na chyflogaeth am o leiaf 6 mis, a
- Ydych chi’n 25 oed neu’n hŷn, a heb fod mewn cyflogaeth am o leiaf 12 mis
- Eich bod eisiau mynd yn ôl i’r gwaith, i wirfoddoli, dysgu sgiliau newydd neu gael mwy o hyder
I hunangyfeirio neu os ydych yn cefnogi rhywun ac eisiau eu cyfeirio i’r prosiect neu i gael gwybod mwy, cysylltwch â’r tîm Gwasanaeth Di-waith ar:-
- 01495 245802
- gwentoows@platfform.org
Bwrdeistref Caerffili
Llwybrau at Gyflogaeth
Os ydych chi mewn gwaith neu’n ddi-waith ar hyn o bryd ac yn wynebu heriau gyda’ch iechyd meddwl, neu am gael mwy eich hyder, yna gallwn weithio gyda chi i ddod o hyd i ffordd ymlaen.
Mae Llwybrau at Gyflogaeth yn cynnig hyfforddiant, cefnogaeth a gwasanaeth mentora i’ch helpu i ddod o hyd i ysbrydoliaeth, goresgyn y pethau sy’n lleihau eich hyder, a chysylltu â’r cymunedau o’ch cwmpas.
Gallwch hefyd ymuno â The Welcome Space, grŵp cymunedol Facebook ar-lein sy’n cynnig cefnogaeth. Hefyd cynhelir ein digwyddiadau Cerdded a Siarad misol, ffordd wych o fynd allan a chyfarfod pobl.
Gallwn gynnig cefnogaeth os:
- Ydych chi’n byw ym Mwrdeistref Caerffili a’ch bod chi
- Am gael cymorth yn y gwaith neu help i ddod o hyd i waith neu wirfoddoli a ffyrdd o fagu hyder a gwella eich lles
Siaradwch â ni:
- Ceri Fox – cerifox@platfform.org
- Julie Rees – juliereespathways@platfform.org
Bwrdeistref Caerffili
Dillad ar gyfer cyfweliadau a dillad gwaith
Mae Perfect Fit yn brosiect sy’n cynnig dillad am ddim ar gyfer cyfweliadau am swydd, gwirfoddoli, gwaith ac achlysuron penodol. Nid yw pawb yn gallu fforddio’r dillad sydd eu hangen arnynt er mwyn gallu mynd i gyfweliad am swydd neu gyfle arall, felly mae Perfect Fit yn helpu i gael gwared ar rwystr i weithio.
Mae’r hyb yn cael ei redeg gan ein staff a’n gwirfoddolwyr o Ganolfan Gymunedol Bargoed, yn Heol Pencarreg, Bargoed, CF81 8QD.
Mae Perfect Fit ar agor rhwng 9.30am a 12.30pm bob dydd Iau yng Nghanolfan Gymunedol Bargoed.
Siaradwch â ni:
- gwentoows@platfform.org
- 01495 245802
Abertawe
Llwybrau i Waith
Cymorth ac arweiniad wrth i chi fagu hyder, datblygu eich sgiliau, a dod o hyd i’ch llwybr ymlaen.
Mae’r Prosiect Llwybrau i Waith yn canolbwyntio ar eich nodau, eich cryfderau a’ch galluoedd. Mae’n ymwneud â goresgyn yr heriau rydych chi’n eu hwynebu, dysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch a magu’r hyder sydd ei eisiau arnoch.
Ar gyfer pobl sy’n mynd drwy gyfnod anodd gyda’u hiechyd meddwl, ac sydd eisiau gwneud cysylltiadau newydd, magu eu hyder a chanolbwyntio ar eu lles.
Ar gael i’r canlynol:
- Pobl sy’n byw yn Abertawe
- Pobl ifanc rhwng 16-24 oed sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
- Pobl 25 oed neu hŷn sydd ddim mewn cyflogaeth.
Dewch i ni ddechrau arni:
- pathwaysswansea@platfform.org
- 07889 808776
Gwirfoddoli
Mae angen i ni i gyd gysylltu ag eraill, a theimlo’n rhan o’r byd o’n cwmpas. Mae ein prosiectau gwirfoddoli yn rhoi cyfle i chi gyfarfod pobl a dysgu sgiliau a hobïau newydd.
Dyma’r mathau o rolau rydym yn eu cynnig:
Bwrdeistref Caerffili
Gwirfoddoli yn ein timau tai â chymorth a’r Gwasanaeth Di-waith
Perfect Fit Hyb Caerffili: didoli a threfnu rhoddion, hongian a stemio, helpu pobl sy’n ymweld â’r hyb, a chymorth cyffredinol. Canolfan Gymunedol Bargoed, ar agor bob dydd Iau rhwng 9.30am a 12.30pm.
Cyfleoedd i wirfoddoli yn ein digwyddiadau. Mae ein prosiectau cyflogaeth yn cynnal digwyddiadau bob dau fis, ac mae cyfleoedd i wirfoddolwyr gymryd rhan mewn llawer o wahanol ffyrdd. Mae gennym wirfoddolwyr sy’n helpu i baratoi’r digwyddiad, gwirfoddolwyr sy’n helpu i weini te/coffi (angen hyfforddiant hylendid bwyd), gwirfoddolwyr sy’n helpu i lunio pecynnau croeso/pecynnau llysiau, gwirfoddolwyr sy’n helpu gyda byrddau crefft, raffl – a mwy.
Gwirfoddoli yng Ngerddi Cymunedol Taraggan. Gall gwirfoddolwyr yn Taraggan gymryd rhan ym mhob tasg cynnal a chadw gyffredinol sy’n gysylltiedig â’r ardd gan gynnwys monitro iechyd yr holl blanhigion, ffrwythau a llysiau. Gall gwirfoddolwyr helpu i blannu a chynnal planhigion tymhorol, cynnal a chadw’r ardd, a chynorthwyo cwsmeriaid yn siop yr ardd.
Siaradwch â ni:
Bwrdeistref Caerffili:
- Jessica Thomas – jessicathomas@platfform.org
- 07887 945346