O Ynysu i Gynhwysian
Clywch straeon llawn ysbrydoliaeth gan y rhai sydd wrth galon prosiectau Platfform.
Edrychwn ar yr heriau o fewn ein system iechyd meddwl a chryfder ymatebion dan arweiniad y gymuned.
Drwy adrodd straeon pwerus a chreadigol, rydym yn archwilio sut y gallwn, gyda’n gilydd, lunio gwasanaethau sydd â mynediad agored, sy’n seiliedig ar gryfderau, ac sydd â’u gwreiddiau mewn cysylltiad a chymuned.
-
Ein Llais
Mae Ein Llais yn brosiect datblygu cymunedol sy'n seiliedig ar asedau ac sy'n ystyriol o drawma, ac fe’i ariennir gan Sefydliad Moondance.
-
Cwtsh
Canolfan gymorth therapiwtig sy'n ystyriol o drawma i oedolion Bae’r Gorllewin sy'n defnyddio sylweddau ac yn profi anawsterau gyda'u hiechyd meddwl yw Cwtsh.
-
Embrace
Gan dynnu ar y gwaith presennol gan yr Hwb ACES, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a mudiadau lleol eraill sy'n ystyriol o drawma, ffocws y prosiect peilot hwn oedd archwilio sut i gael ymwybyddiaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (adverse childhood experiences/ACE) i symud i fod yn ymarfer a gweithredu ar lefel leol iawn, law yn llaw â phreswylwyr a rhanddeiliaid allweddol y gymdogaeth.
-
Cywaith Gwirionedd
Fel rhan o’n Cywaith Gwirionedd ni, rydym am glywed y straeon y gall diagnosis o anhwylder personoliaeth eu cuddio. Rydym wedi casglu straeon go iawn pobl am dderbyn y diagnosis hwn, eu profiadau o fewn y system iechyd meddwl, a’r stori bersonol na all y label diagnostig ei hadrodd wrthym.