HomeGwasanaethau iechyd meddwl a thai yn Rhondda Cynon Taf

Gwasanaethau iechyd meddwl a thai yn Rhondda Cynon Taf

Os ydych chi’n wynebu heriau iechyd meddwl sy’n effeithio ar eich budd-daliadau neu eich sefyllfa o ran cartref, gallwn ni eich helpu chi i wella eich sefyllfa a’ch llesiant.

Eich sefyllfa o ran cartref

Os ydych chi byw yn Rhondda Cynon Taf ac yn wynebu heriau iechyd meddwl sy’n effeithio ar eich budd-daliadau a’ch sefyllfa o ran cartref, gallwn ni eich helpu chi i wella eich sefyllfa. Gallwn ni eich helpu chi i sefydlu tenantiaethau newydd, cysylltu â landlordiaid ac awdurdodau, gweithio gyda chi ar geisiadau ac apeliadau, a chanfod ffyrdd o wella eich iechyd meddwl.

Gallwn ni hefyd ddarparu llety gyda chefnogaeth i chi am hyd at ddwy flynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, byddwn ni’n gweithio gyda chi i greu cynllun sy’n edrych ar eich anghenion iechyd meddwl a’ch anghenion o ran cartref, gan eich paratoi chi i fyw yn eich cartref eich hun.

Dewch i ni ddechrau arni

Gallwch chi ddechrau arni drwy ymweld ag un o’n hybiau galw heibio. Galwch heibio un o’r lleoliadau isod ar yr amseroedd a restrir i gael sgwrs gyfrinachol ag aelod o staff.

Hwb Rhondda Cynon Taf: 51 Rhos Dyfed, Aberdâr, CF44 6JA

Dydd Llun: 10:00am – 1:00pm
Cyngor ar gyffuriau ac alcohol

Dydd Mawrth: 10:00am – 1:00pm
Cyngor ar dai

Dydd Gwener: 10:00am – 1:00pm
Cyngor ar ddiweithdra

Cysylltu â ni

rctteam@platfform.org
01685 875508
51 Rhos Dyfed, Aberdare, CF44 6JA

Cysylltwch â ni ar Facebook i gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith