HomeGwasanaethau iechyd meddwl a thai yn Nhorfaen

Gwasanaethau iechyd meddwl a thai yn Nhorfaen

Os ydych chi’n wynebu heriau iechyd meddwl sy’n effeithio ar eich budd-daliadau neu eich sefyllfa o ran cartref, gallwn ni eich helpu chi i wella eich sefyllfa a’ch llesiant.

Eich sefyllfa o ran cartref

Os ydych chi byw yn Nhorfaen ac yn wynebu heriau iechyd meddwl sy’n effeithio ar eich budd-daliadau a’ch sefyllfa o ran cartref, gallwn ni eich helpu chi i wella eich sefyllfa. Gallwn ni eich helpu chi i sefydlu tenantiaethau newydd, cysylltu â landlordiaid ac awdurdodau, gweithio gyda chi ar geisiadau ac apeliadau, a chanfod ffyrdd o wella eich iechyd meddwl.

Gallwn ni hefyd ddarparu llety gyda chefnogaeth i chi am hyd at ddwy flynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, byddwn ni’n gweithio gyda chi i greu cynllun sy’n edrych ar eich anghenion iechyd meddwl a’ch anghenion o ran cartref, gan eich paratoi chi i fyw yn eich cartref eich hun.

Dewch i ni ddechrau arni

Gallwch chi ddechrau arni drwy ymweld ag un o’n hybiau galw heibio. Galwch heibio un o’r lleoliadau isod ar yr amseroedd a restrir i gael sgwrs gyfrinachol ag aelod o staff.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am y sesiynau galw heibio yn Nhorfaen.

Cysylltu â ni

torfaenteam@platfform.org
Cysylltwch â ni ar Facebook i gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith