HomeCydraddoldeb: Platfform i bawbDatganiad ar hiliaeth, a’r camau rydym yn eu cymryd ar frys

Datganiad ar hiliaeth, a’r camau rydym yn eu cymryd ar frys

Yn dilyn llofruddiaeth George Floyd, mae’r mudiad Mae Bywydau Duon o Bwys a gweithredwyr ym mhedwar ban byd wedi cynyddu eu presenoldeb a’u gwaith i daflu goleuni ar yr anghydraddoldeb hiliol a’r trais hiliol dychrynllyd ac enbyd sy’n rhan ddofn o’n cymdeithas.

Ni ddylai fod wedi cymryd dicter ar lefel fyd-eang i ddod â sylw mor fanwl i’r materion hyn, ond y gwir yw bod llawer ohonom wedi bod yn fodlon cymryd yn ganiataol nad oedden ni’n cyfrannu at y broblem. Cyn belled nad oedden ni’n cyflawni gweithredoedd amlwg hiliol, roedden ni’n rhydd rhag bai. Nad oedd bai ymhlyg arnom ni oll am broblem gymdeithasol.

Mae’n amlwg, erbyn hyn, bod angen herio’r safbwynt hwn. Mae bod yn segur yn golygu bod yn rhan o’r broblem, fel unigolion ac fel mudiadau.

Yma yn Platfform, rydym wedi caniatáu i wahaniaethu hiliol barhau trwy ein hanwybodaeth am raddfa’r broblem. Nid ydym wedi cymryd camau gweithredu i fynd i’r afael â gwahaniaethu diarwybod yn ein prosesau, ein hiaith a’n diwylliant, ac rydym wedi methu â chymryd y camau angenrheidiol i fod yn fudiad sydd wirioneddol yn cynrychioli ehangder profiadau’r bobl rydym am eu cefnogi. Nid oedden ni’n gweld bod diffyg gweithredu yn golygu ein bod yn rhan o’r broblem, ac felly ni ofynnwyd y cwestiynau anodd.

Nid ydym wedi heriol hiliaeth. Rydym wedi bod yn hunanfoddhaol. Rydym wedi bod yn rhan o’r broblem.

Mae’r ffaith hon yn mynd yn hollol groes i’n gwerthoedd, ein gwaith a’n cenhadaeth. Ni allwn honni ein bod yn gweithio tuag at ein nod o gefnogi pobl i daclo heriau iechyd meddwl os nad ydyn ni’n cydnabod ein methiannau ac yn gweithio’n ddiflino i fynd i’r afael â nhw, waeth pa mor anghyfforddus neu heriol fydd y sgyrsiau a’r dirnadaethau sydd o’n blaenau. Ni allwn honni mai ein cenhadaeth yw “llesiant cynaliadwy i bawb” oni bai ein bod yn mynd ati i ddeall – a mynd i’r afael â – thueddiadau, gwahaniaethu a’r anghydbwysedd braint hiliol sy’n bodoli yn ein cymdeithas, ac yn ein mudiad.

Fe wnawn ni gamgymeriadau, heb os. Ond hefyd, fe wnawn ni wrando, dysgu ac, yn hollbwysig, fe wnawn ni weithredu. Mae ein cynllun gweithredu’n cyflwyno camau cyntaf y gweithredu hwnnw; newidiadau rydyn ni’n ymroi i’w gwneud. Efallai na fydd y newidiadau hyn yn cwmpasu popeth y mae angen inni ei wneud i fod yn gynghreiriaid gweithredol ac effeithiol, ond gobeithiwn y byddant yn ddechreuad o sylwedd. Allwn ni ddim ond symud ymlaen os rydyn ni’n agored i ddeall a derbyn ein tueddiadau ein hunain, yn barod i ddysgu oddi wrth ein gilydd, ac yn fodlon newid.

Mae iechyd meddwl yn brofiad cyffredinol i holl bobl y byd. Ni all unrhyw elusen sy’n gweithio i gyfrannu at lesiant pobl wneud hynny’n effeithiol os nad ydyn nhw’n cymryd rhan mewn herio rhagfarnau sy’n dwyn hunaniaeth, urddas ac annibyniaeth pobl. Mewn cyfnod pan fo angen dybryd am wasanaethau iechyd meddwl, ac mae pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn wynebu rhwystrau anghymesur i gael gafael ar y gwasanaethau hyn, ni allwn fod yn fud.

Mae angen inni, yn genedlaethol ac ar lefel fyd-eang, wneud newid ystyrlon tuag at gynnal gwasanaethau iechyd meddwl sydd wirioneddol yn cynrychioli pob un ohonom, a bydd angen pob un ohonom i wireddu hyn. Dim ond peth o’r siwrne allwn ni ei gwneud ar idealau a’r bwriadau gorau. Mae angen nawr am weithredu cadarn, real.

– Ewan Hilton a Bwrdd a Thîm Arweinyddiaeth Platfform for Change