HomeCydraddoldeb: Platfform i bawbGwrth-hiliaeth: ein cynllun gweithredu

Gwrth-hiliaeth: ein cynllun gweithredu

Mae’r cynllun hwn yn amlinellu camau cyntaf y gweithredoedd rydym yn ymrwymo iddynt

Yn y misoedd diwethaf, mae gweithredwyr a mudiadau ym mhedwar ban byd wedi bod yn gweithio’n ddiflino i daflu goleuni ar yr anghydraddoldeb, gwahaniaethu a thrais sy’n bresennol mewn cymdeithasau ar ddwy ochr yr Iwerydd. Sbardunwyd hyn, yn rhannol, gan y protestio fel rhan o’r mudiad Mae Bywydau Duon o Bwys yn dilyn llofruddiaeth George Floyd.

Daw un thema barhaus i’r amlwg o blith y trafodaethau a’r craffu dwys ar hiliaeth gyfundrefnol yn ddiweddar: ni all pethau barhau fel ag y maen nhw. Mae’n hen bryd am newid.

Fel mudiad sy’n gweithio i dynnu sylw at y newidiadau sydd ei hangen mewn systemau iechyd meddwl, mae’n hanfodol ein bod yn mynd i’r afael ag effeithiau hiliaeth ar lesiant, ac ar y rhwystrau hiliol i gael gafael ar gefnogaeth iechyd meddwl addas sy’n bodoli ar hyn o bryd.

I wneud hynny, yn gyntaf mae angen inni gydnabod y rhan rydyn ni wedi’i chwarae, drwy anwybodaeth neu hunanfoddhad, mewn caniatáu i hiliaeth barhau i fodoli yng Nghymru. Mae angen inni addysgu ein hunain, mae angen inni wrando ar y rhai sydd wedi cael eu heffeithio, ac mae angen inni ffurfio partneriaethau gyda’r bobl a all ddangos inni sut i wneud yn well. Ac mae angen inni ddechrau arni nawr.

Mae’r cynllun hwn yn cyflwyno rhannau cyntaf y camau rydym yn ymrwymo i’w cymryd; dyma fan cychwyn ein cyfraniad i Gymru fwy cyfartal.

Gwaith dysgu

Realaeth bywydau pobl, hanes materion hil, ac adnoddau ar gyfer staff

Beth? Ar draws pob rhan o’n mudiad, rydyn ni’n dysgu mwy am realaeth profiadau bywyd o hiliaeth yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, a hanes materion hil yng Nghymru.

Sut? Casglu a rhannu adnoddau a fydd ar gael i’n holl staff eu defnyddio. Cymryd cyngor gan fudiadau blaenllaw am yr hyn y mae angen inni ei gynnwys. Trefnu i siaradwyr allweddol ddarparu sesiynau ar-lein i’n holl staff. Canfod yr adnoddau sydd eu hangen i gefnogi staff.

Pam? Mae angen inni weld y gwirionedd: mae hunanfoddhad yn arwain at ddiffyg gweithredu. Gwybod hanes hiliaeth, a derbyn a deall ei fod yn parhau hyd heddiw, yw man cychwyn ein siwrne o fynd i’r afael â’n tueddiadau ein hunain.

Cael trefn arni

Polisïau, hyfforddiant, data – a chymryd cyngor da

Beth? Adolygiad o’n polisïau penbaladr. Rhaid inni ddod o hyd i’r rhwystrau rydyn ni’n eu cynnal, ac mae angen i’n prosesau a’n hyfforddiant ar gyfer mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a thueddiadau daro deuddeg. Mae angen hefyd inni gasglu’r data i olrhain ein cynnydd.

Sut? Adolygiad cyflawn o’n polisïau. Ymrwymo i gyflawni’r Cynllun Ardystio Arferion Da Iechyd Meddwl BME yn y Gweithle gan Diverse Cymru. Penodi Swyddog Recriwtio i gymryd cyfrifoldeb am drwsio ein polisïau recriwtio ar bob lefel, yn cynnwys y bwrdd. Systemau newydd ar gyfer casglu data ar draws y mudiad. Dim ond dechreuad yw hyn – mae mwy i ddilyn.

Pam? Mae agen i bopeth a ddysgwn fod yn rhan annatod o wead ein mudiad, ac mae angen inni gymryd cyngor da gan bobl sy’n deall hiliaeth yn well na ni.

Creu cysylltiadau

Beth? Datblygu perthynas gydag amrywiaeth eang o bobl a chymunedau i roi cymaint o gyfleoedd â phosibl i ddysgu ganddynt a gweithio gyda’n gilydd.

Sut? Rydym am gysylltu â Diverse Cymru, yn enwedig o ran defnyddio eu Canllaw Cymhwysedd Diwylliannol. Rydym hefyd wedi llofnodi’r adduned cydraddoldeb hiliol Gweithredu, nid Geiriau gan Tai Pawb. Mae ein prosiectau eisoes wedi dechrau estyn allan i gymunedau ledled Cymru.

Pam? Mae angen inni wrando ar y rhai sydd wedi cael profiad o hiliaeth; eu profiadau nhw sy’n dangos realaeth nad oes modd ei ddirnad o adroddiadau ac ystadegau. Mae angen i’r hyn maen nhw’n ei ddweud wrthym oleuo ein camau gweithredu.

Rhoi’r cyfan ar waith

Tynnu sylw at effeithiau hiliaeth ar iechyd meddwl, a lobïo am newid

Beth? Chwarae rhan weithredol mewn codi lleisiau’r rhai sydd wedi cael profiad o hiliaeth, a lobïo i wella gwasanaethau a darpariaeth gwasanaeth i bobl o bob ethnigrwydd yng Nghymru, yn enwedig y rhai sydd wedi wynebu rhwystrau oherwydd eu hil.

Sut? Rydym wrthi’n datblygu hyn, ond fe ddefnyddiwn unrhyw sianel a phlatfform i rannu’r neges yn glir: mae hiliaeth yn bodoli, mae’n niweidiol iawn i iechyd meddwl, ac mae yna rwystrau hiliol a diwylliannol anghymesur i gael gafael ar gefnogaeth. Fe fyddwn yn defnyddio ein gwybodaeth a’n canfyddiadau i lobïo am newid.

Pam? Mae mynd i’r afael â hiliaeth yn fater i bawb. Fel mudiad iechyd meddwl, fe ddefnyddiwn ein sefyllfa a’n gwybodaeth i ganolbwyntio ar sut mae hiliaeth yn effeithio ar y gwaith rydyn ni’n rhan ohono.