Hoffwn rannu fy stori
Dyma lle gallwch chi rannu eich profiadau o ofal iechyd meddwl acíwt ac mewn argyfwng yng Nghymru
Diolch am eich diddordeb mewn bod yn rhan o waith llunio dyfodol gofal iechyd meddwl acíwt ac mewn argyfwng yng Nghymru.
Os hoffech fynd i drafodaeth, cofrestrwch eich diddordeb cyn rhannu stori.
Os ydych chi eisoes wedi cofrestru, neu os hoffech rannu eich stori heb fynd i drafodaeth, rydych chi yn y lle iawn!
Bydd straeon a anfonir atom yn rhan o’n hadroddiad i GIG Cymru. Gallant hefyd gael eu rhannu’n gyhoeddus neu gydag eraill i helpu i greu gwasanaethau gwell. Os dymunwch, efallai eich stori chi fydd un o’r rhai gaiff eu trafod yn y grwpiau trafod.
Ni allwn rannu pob stori, ond bydd pob stori yn cael ei darllen. Bydd pob profiad yn llywio’r adroddiad i GIG Cymru, a fydd yn llywio dyfodol gwasanaethau.
Hoffwn rannu fy stori
Gwybodaeth bwysig
Gall straeon a rennir gyda’r prosiect hwn gael eu rhannu â sefydliadau eraill neu eu cyhoeddi’n gyhoeddus, naill ai gan Platfform neu GIG Cymru. Gellir gwneud straeon yn ddienw i’w defnyddio’n allanol os oes angen.
Bydd straeon a rennir, a thrafodaethau mewn digwyddiadau grŵp, yn cael eu defnyddio’n ddienw er mwyn eu cynnwys yn yr adroddiad i GIG Cymru. Bydd straeon yn cael eu cadw gan Weithrediaeth GIG Cymru at ddiben y prosiect hwn ond bydd yr adroddiad terfynol hwn yn cael ei gadw fel eiddo deallusol Gweithrediaeth GIG Cymru – mae hyn er mwyn sicrhau y gellir parhau i rannu profiadau yn y dyfodol, ac y gallant barhau i fod yn rhan o waith newid a llywio systemau a gwasanaethau.
Ni fydd data personol a rennir gyda Platfform yn cael ei rannu ag unrhyw un arall, ac eithrio os ydych wedi rhoi caniatâd i ni rannu eich enw go iawn ochr yn ochr â’ch stori. Efallai y byddwch am gymryd rhan mewn digwyddiadau yn y dyfodol sy’n ymwneud â llywio gwasanaethau – os felly, byddwn yn gofyn am eich caniatâd i rannu eich manylion gyda’n partner yn GIG Cymru i helpu i hwyluso hyn.