HomeAmdanom niStrategaeth a gwerthoedd

Strategaeth a gwerthoedd

Mae ein strategaeth a’n gwerthoedd yn seiliedig ar ein cenhadaeth i fod yn llwyfan ar gyfer cysylltiad, trawsnewid a newid cymdeithasol.

Mae Platfform yn gysylltiedig, yn dosturiol, yn ddewr ac yn chwilfrydig.

Ein gweledigaeth yw llesiant cynaliadwy i bawb. Er mwyn i hyn ddod yn realiti, mae angen i ni gael newid system sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn yn y modd yr ydym yn deall ac yn ymateb i drallod emosiynol.

Cysylltiedig

Mae ymdeimlad o gysylltiad yn sylfaenol i les. Mae hynny’n cynnwys teimlo’n gysylltiedig â phobl, lleoedd, cymunedau, natur, sefydliadau cefnogol, a’r byd ehangach. Er mwyn annog cysylltiad rydym yn ddilys, yn agored ac yn onest – ac yn trin pawb yn gyfartal.

Tosturiol

Rydyn ni’n credu y dylai pawb gael eu trin â thosturi, felly mae caredigrwydd ac empathi wrth wraidd ein dull gweithredu sy’n seiliedig ar drawma. Nid ydym yn barnu, nac yn awgrymu ein bod yn gwybod sut mae pobl yn teimlo – yn hytrach, rydym yn gwerthfawrogi gwahaniaethau unigol, ac yn rhoi’r parch y mae’n ei haeddu i brofiad byw.

Dewr

Rydym yn feiddgar wrth herio’r patrwm presennol mewn diwylliant iechyd meddwl. Nid ydym yn ofni nofio yn erbyn y llanw, rydym yn disgwyl ac yn derbyn gwrthwynebiad i newid, ond rydym yn ymddiried yn ein greddf a byddwn yn aflonyddgar ac yn benderfynol wrth sicrhau newid er lles pawb.

Chwilfrydig

Mae gennym ni ddiddordeb bob amser yn syniadau a phrofiadau pobl, ac yn gweld ein gwaith fel cromlin ddysgu barhaus. Rydym yn gofyn cwestiynau – ac yn cwestiynu’r atebion – fel rhan o fudiad cymdeithasol ehangach sy’n archwilio dulliau newydd o sicrhau lles cynaliadwy.

Lawrlwythwch ein strategaeth [wedi’i hadnewyddu] yma.