Strategaeth a gwerthoedd

Gwnawn hyn drwy:

  • Hyrwyddo safbwynt cyfiawnder cymdeithasol ar iechyd meddwl sy’n cydnabod effaith trawma, anghydraddoldeb a phrofiadau bywyd.
  • Sicrhau bod cefnogaeth yn hawdd ei chael, yn dosturiol ac yn agos at adref.

Mae Platfform yn gysylltiedig, yn dosturiol, yn ddewr ac yn chwilfrydig.

Ein Pwrpas yw creu cymdeithas lle mae gan bawb yr amodau ar gyfer iechyd meddwl da. Er mwyn i hyn ddod yn realiti, mae angen i ni gael newid system sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn yn y modd yr ydym yn deall ac yn ymateb i drallod emosiynol.

Cysylltiedig

Rydym yn meithrin cydberthynasau ystyrlon oherwydd mae cael perthyn yn hybu iechyd. Dim ond pan fyddwn ni’n gysylltiedig ag eraill ac yn gweithio gyda’n gilydd y mae newid yn digwydd.

Dewr

Rydym yn lleisio barn pan fydd systemau’n achosi niwed ac yn herio meddylfryd hen ffasiwn am iechyd meddwl, hyd yn oed pan mae hynny’n anghyfforddus. Nid oes gennym ofn bod yn agored i niwed na pherchnogi ein camgymeriadau—oherwydd dyna sut mae newid yn digwydd.

Tosturiol

Dydyn ni ddim yn barnu—caredigrwydd ac empathi yw sylfeini popeth a wnawn. Cariad, gofal a gonestrwydd emosiynol sydd wrth wraidd pwy ydym ni.

Chwilfrydig

Rydym yn dysgu yn agored, yn myfyrio’n aml ac yn aros yn agored i’r hyn nad ydym yn ei wybod eto. Rydym yn gwrando’n astud ar straeon pobl ac yn cyd-greu ffyrdd newydd ymlaen.