HomeAmdanom niEin hymagwedd

Ein hymagwedd

Mae’r tri dull isod yn ffurfio sail i’n holl gwaith.
Ar eu pennau eu hunain, mae’r dulliau hyn yn rai tra hysbys ac uchel eu parch ond, o’u tynnu ynghyd, ceir sylfaen ar gyfer lles cynaliadwy.

Wedi’i seilio ar asedau

Credwn fod gan bob person a phob cymuned gryfderau ac asedau cynhenid. Cysylltu â’r asedau hyn yw man cychwyn pob siwrne.

Yn rhy aml, mae gwasanaethau’n canolbwyntio ar yr hyn sydd o’i le ac yn ceisio’i ddatrys. Dengys tystiolaeth nad yw hynny’n gweithio; mae’n esgeuluso ac yn anwybyddu’r cryfder a’r sgiliau sydd eisoes gan bobl sy’n mynd trwy gyfnodau anodd ac nid yw’n arwain at newid cynaliadwy.

Gwyddom na allwn ‘drwsio’ pobl, ond fe allwn gerdded ochr yn ochr â nhw a helpu ble bynnag y gallwn ar eu siwrne.

Wedi’i lywio gan drawma

Rydym yn gweithio gyda model sydd wedi’i lywio gan drawma, sy’n golygu ein bod yn credu bod y rhan fwyaf o ffurfiau o drallod emosiynol wedi’u gwreiddio ym mhrofiadau bywyd pobl. Deallwn sut y gall bywydau gael eu siapio gan brofiadau trawmatig, a chredwn y gallwn ganfod y llwybrau gorau at les trwy ganolbwyntio ar a chyfnerthu cryfderau pobl ac adnoddau cymunedau.

I’r perwyl hwn, bydd gennym bob amser ddiddordeb yn ‘beth sydd wedi digwydd i chi?’, yn hytrach na ‘beth sydd yn bod arnoch chi?’. Rydym yn gweithio gyda phobl i ganfod ffyrdd o weithio trwy drawma a’r heriau a all godi o hynny.

Yn canolbwyntio ar wella

Mae ein gwaith i gyd yn canolbwyntio ar wella, adferiad a symud ymlaen. Rydym yn gweithio gyda phobl trwy’r heriau y maen nhw’n eu hwynebu i ganfod ffyrdd o reoli eu lles a theimlo’n well.

Mae hyn yn golygu gweithio gyda phobl i ganfod a harneisio eu cryfderau a’u galluoedd unigryw er mwyn cyflawni lles cynaliadwy i fyw’r bywyd y maen nhw’n ei ddewis.

Darllenwch fwy am sut rydyn ni’n rhoi’r dulliau hyn ar waith trwy ein prosiectau a’n blogiau.