Amdanom ni
Platfform yw’r elusen iechyd meddwl a newid cymdeithasol.
Rydym yn blatfform ar gyfer cysylltu, trawsnewid a newid cymdeithasol.
Rydym yn gweithio gyda phobl sy’n wynebu heriau iechyd meddwl, a gyda chymunedau sydd eisiau creu mwy o synnwyr o gysylltiad, perchnogaeth a lles yn y lleoedd y maen nhw’n byw ynddynt.
Nid ydym yn credu bod pobl na chymunedau wedi “torri” nac angen eu trwsio. Yr hyn sy’n ein gyrru ymlaen yw’r gred sylfaenol mai dull wedi’i seilio ar gryfderau yw’r sylfaen ar gyfer lles cynaliadwy i bawb.
Rydym yn defnyddio dull wedi’i lywio gan drawma i ddeall iechyd meddwl a thrallod emosiynol, ac ystyriwn nad yw’r systemau iechyd meddwl, a systemau iechyd, gofal cymdeithasol a’r sector cyhoeddus ehangach, bellach yn ‘addas i’w pwrpas’. Yn seiliedig ar fodelau salwch a/neu ddiffyg, maent yn gwadu’r gobaith a’r effaith i unigolion wella.
Rydym yn rhan o fudiad cymdeithasol ar ei gynnydd sy’n gweithio tuag at newid sylfaenol yn y ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu, fel eu bod yn cefnogi pobl ar drywydd lles cynaliadwy i fyw’r bywyd y maen nhw’n ei ddewis.
Rydym wedi gweithio yng Nghymru dan yr enw Gofal am 30 mlynedd, ac o 24 Gorffennaf, Platfform ydym ni.
-
Strategaeth a gwerthoedd
Ein cenhadaeth yw i fod yn blatfform ar gyfer cysylltu, trawsnewid a newid cymdeithasol.
-
Dyma ni
Daw ein hymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr o bob cefndir, pob un ag angerdd am les cynaliadwy i bawb.
-
Ein hymagwedd
Mae ein hymagwedd wedi’i seilio ar asedau, wedi'i lywio gan drawma ac yn canolbwyntio ar wella
-
Ein mentrau cymdeithasol
Rydym yn gweithredu mentrau cymdeithasol sy'n ail-fuddsoddi'r holl elw i'n gwaith elusennol ac yn creu cyfleoedd cyflogaeth.
-
Newid system
Credwn fod angen diwygiad radical yn y system iechyd meddwl, a’r system iechyd, gofal cymdeithasol a’r sector cyhoeddus ehangach.
-
Cymerwch ran
Gallwch chi gymryd rhan yn ein gwaith trwy gydweithio â ni, ymuno â ni yn ein hymgyrch i wneud newid neu drwy roi rhodd i ni.