Bod yn yr awyr agored a chysylltu â natur

Gall ein meddyliau effeithio’n fawr ar ein teimladau. Mae ymchwilwyr yn amcangyfrif ein bod yn cael tua 50,000 o feddyliau bob dydd, a’r rhan fwyaf ohonynt yn rai ar hap, yn ailadroddus ac yn cynnwys llawer o grwydro disynnwyr.

Rydym yn aml yn canolbwyntio ar ein meddyliau negyddol, bygythiol a hunan-feirniadol ac yn nes ymlaen, yn methu deall pam ein bod yn teimlo’n bryderus neu’n drist. Deallir mai’r reddf gynhenid i ddatrys problemau rydym wedi’i hetifeddu sy’n peri i ni ganolbwyntio ar feddyliau negyddol. Mae’n gwneud synnwyr nad ydym wedi bod angen canolbwyntio ar y pethau sy’n mynd yn dda er mwyn goroesi, gan nad oes angen dianc rhag, neu drwsio, yr hyn sy’n mynd yn dda.

Dengys bod siarad yn gadarnhaol gyda’n hunain yn rhyddhau hormonau sy’n gwneud inni deimlo’n dda ac yn ein helpu i ail-wifrio’r ymennydd i ganolbwyntio ar ein cryfderau a bod yn gadarnhaol. Mae gofyn ymarfer i fedru tiwnio i mewn i’n meddyliau cadarnhaol, ond mae hyn yn bosibl.

Lle da i gychwyn yw talu sylw i’r ffordd rydych yn siarad gyda, neu amdanoch, chi’ch hunan a sylwi ar sut mae hyn yn gwneud i chi deimlo. A yw hyn o gymorth i chi, a yw’n teimlo’n dda?

Gall fod yn syfrdanol sylweddoli ein bod yn dueddol o gredu ein beirniad mewnol yn hytrach na’r hyn y mae hyd yn oed ein hanwyliaid yn ei feddwl. O ddechrau gwneud newidiadau bychain yn y ffordd rydym yn siarad ac yn meddwl amdanom ein hunain, rydym yn dechrau dod yn fwy agored i fyw bywyd o obaith a chyfle.

Rhowch gynnig ar yr ymarferion hyn i gryfhau eich siarad cadarnhaol gyda chi’ch hunain:

1. Dechreuwch y diwrnod gan ailadrodd ymadrodd cadarnhaol 10 gwaith. Mae enghreifftiau gwych i’w gweld yma.
2. Dechreuwch ysgrifennu rhestr o’r hyn rydych yn ddiolchgar amdano fel dull o olrhain y pethau da a chadarnhaol yn eich bywyd.
3. Ysgrifennwch unrhyw siarad negyddol â chi’ch hunain sy’n codi ac ysgrifennwch feddyliau cadarnhaol i’w disodli pan fo’n bosibl.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn