Myfyrio ac arferion meddylgarwch eraill

Myfyrio meddylgar yw’r ffordd tuag at les, yn nhyb llawer o bobl.

Ystyr ‘meddylgarwch’ yw dod â’n sylw i’r foment bresennol sydd yn gallu ein helpu i dawelu carlam ein meddyliau, lleihau straen a gorbryder a chanolbwyntio ein sylw.

Gall ymarfer meddylgarwch ein helpu pan fo bywyd yn mynd yn dda a phan fyddwn yn wynebu anawsterau. Mae’n ein helpu i fyw yn y foment yn hytrach na phoeni am rywbeth efallai na fydd yn digwydd neu fyfyrio am rywbeth a ddwedom yn y gorffennol; mae meddylgarwch yn ein dysgu i gofleidio beth bynnag sy’n digwydd nawr.

Mae’r manteision yn dod yn amlwg po fwyaf o amser a dreuliwn yn ymarfer meddylgarwch, ac er nad yw’n hawdd o hyd, mae’n werth cymryd yr amser a gwneud yr ymdrech.
Os hoffech roi cynnig ar fyfyrio, mae apiau ffôn symudol fel Headspace, Calm a Harmony yn gallu bod yn fan cychwyn da.

Os nad yw myfyrio yn mynd â’ch bryd, mae amrywiaeth o wahanol ymarferion meddylgarwch y gallech roi cynnig arnynt, fel:

Yoga: mae yoga’n wych i’r rhai sy’n hoffi symud wrth fod yn feddylgar. Mae cymaint o ddulliau yoga gwahanol felly mae’n werth chwilio am ddosbarth lleol i ddechreuwyr neu diwtorial ar YouTube.

Cerdded meddylgar:

gellir ymarfer hyn yn unrhyw le ac ar unrhyw adeg. Mae’r canllawiau yn ein hannog i dalu sylw i’n synhwyrau wrth gerdded – beth ydych chi’n ei deimlo, ei weld a’i glywed wrth gerdded? Mae’r arfer yn golygu arafu a sylwi ar eich amgylchedd. Ceisio cymryd popeth i mewn a bod yn wirioneddol bresennol yn yr ennyd honno, gan dynnu eich meddwl yn ôl i’ch synhwyrau bob tro mae’n gwyro tuag at synfyfyrio neu feddwl.

Lliwio meddylgar:

un ffordd boblogaidd i bobl ymlacio yw lliwio meddylgar. Gellir prynu llyfrau lliwio meddylgar yn y rhan fwyaf o siopau llyfrau a siopau offer ysgrifennu neu gallwch argraffu ambell i ddalen o’r rhyngrwyd i weld a ydych yn ei fwynhau.

Bwyta meddylgar:

Mae bwyta’n feddylgar yn rhywbeth y gallwn ei ymarfer bob dydd. Mae’n golygu talu sylw i’ch bwyd a’r teimlad o’i fwyta. Osgowch unrhyw beth a allai dynnu eich sylw oddi ar eich pryd bwyd, fel dyfeisiau digidol, llyfrau, papurau newydd neu’r teledu. Talwch sylw i’r hyn rydych yn ei fwyta, y profiadau synhwyraidd – blas, aroglau a theimlad. Sylwch ar liw neu edrychiad y bwyd.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn