Ymarfer corff er eich lles cyffredinol

Mae llawer ohonom yn cael ein dysgu i wneud ymarfer corff er mwyn bod yn fwy heini neu golli pwysau, ac felly gellir ei gysylltu â thasg ddiflas nad ydyn ni wir eisiau ei chyflawni. Beth pe baech yn meddwl am wneud ymarfer corff dim ond er mwyn cael teimlo’n dda? Fyddech chi’n dewis rhywbeth gwahanol?

Os gwnawn ni rywbeth rydyn ni wirioneddol yn ei fwynhau, rydym yn fwy tebygol o ddal ati pan fyddwn ni’n brysur, a theimlo’n well o fod wedi’i wneud. Rhai o’r grwpiau ymarfer corff sy’n boblogaidd y dyddiau hyn yw’r rhai sydd â’r nod o greu cysylltiadau, cael hwyl a bod yn hygyrch – dyma ffyrdd ardderchog i ni deimlo’n dda.

Gallai’r rhai o’r rhain fod yn opsiynau ymarfer corff er mwyn teimlo’n dda:

1. Edrychwch i weld a oes menter Good Gym neu debyg yn eich ardal chi – ffordd hyfryd o ymuno â grŵp rhedeg sy’n rhedeg er mwyn gwneud pethau da a phrosiectau cymunedol gyda’i gilydd.
2. Rhowch gynnig ar eich Park Run lleol – cwrs rhedeg 5km wythnosol mewn lleoedd hardd lle caiff pob lefel gallu eu hannog a’u cymeradwyo gan eraill.
3. Gwirfoddolwch gyda The Cinnamon Trust – helpwch berson hŷn trwy fynd â’u cŵn am dro neu helpu i edrych ar ôl eu hanifeiliaid anwes.
4. Tai Chi – addas i bob oedran, ac yn ymarfer llai heriol gyda buddion iechyd meddwl a lles. Dysgwch fwy gan y Tai Chi for Health Institute yma.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn