HomeLlesStoriâuStori Paul

Stori Paul

Sut y daeth Paul o hyd i gefnogaeth a llesiant yn ei gymuned

Mae Platfform [Gofal gynt] wedi bod mor amyneddgar gyda fi. O’r lle roeddwn i gwpl o flynyddoedd yn ôl, wyddwn i ddim lle fuaswn i hebddyn nhw

Pan oeddwn i’n 16 mlwydd oed, fe wnes i adael cartref a symud i mewn i goleg preswyl yng Nghroesoswallt. Mae’n cynnig addysg bellach i fyfyrwyr gydag anawsterau ac anableddau dysgu.

Yn fuan wedi symud yno, fe gollais fy ffrind agosaf i ganser y croen a gwaethygodd fy iechyd meddwl, yn arwain at iselder ac anorecsia. Pan oeddwn i’n 18 mlwydd oed, roedd fy iselder mor annioddefol nes i mi geisio lladd fy hun.

Sylweddolais ar y pwynt hwn mod i wedi cyrraedd y gwaelod isaf, a bod angen help arnaf i gyda fy iechyd meddwl felly fe wnes i estyn allan i gael therapi. Yn ystod y blynyddoedd ar ôl gadael y coleg, cefais ddiagnosis o Syndrom Asperger’s, ynghyd ag iselder clinigol, gorbryder dwys a seiclothymia (sydd â llawer o nodweddion tebyg i anhwylder deubegynol).

Dod o hyd i fy lle fy hun

Yn 2015, fe symudais i mewn i fyw mewn tai â chymorth yng Nghaerffili. Fodd bynnag, doedd yr amgylchedd hwnnw ddim yn iawn i mi, felly fe wnes i gymryd camau, gyda chefnogaeth Gofal [Platfform bellach], tuag at wella a dod o hyd i fy lle fy hun i fyw ynddo.

Rwyf nawr yn byw yn fy fflat fy hun ac rwyf wedi bod yn gwirfoddoli gyda Platfform ers 2018 ac rwyf wrth fy modd gyda’r rôl. Rwy’n gobeithio bod gyda Platfform nes byddaf yn ymddeol.

Cofleidio cefnogaeth gymunedol

Rwy’n mynychu’r gydweithfa fwyd wythnosol yn swyddfa Platfform yng Nghoed-duon yn rheolaidd, gan ei fod yn lle gwych i bobl sgwrsio. Mae’n gymuned ardderchog sydd bob amser yno i gefnogi ei gilydd a chwrdd am sgwrs pan fo unrhyw un angen hynny.

Yn ddiweddar, fe ddechreuais i helpu gyda phrosiect garddio – sy’n dal i fod yn syrpreis i mi gan nad oeddwn i’n meddwl y buaswn yn ei fwynhau nes i mi gychwyn arni!

Yn ogystal â fy rolau gwirfoddoli, rwy’n mwynhau gwrando ar gerddoriaeth a thripiau wythnosol i’r sinema i fy helpu i deimlo’n dda. Rwy’n mwynhau artistiaid fel Pink yn enwedig, rhai sy’n deall heriau iechyd meddwl hefyd.

Nid yw fy ngorffennol yn diffinio pwy wyf i

Nawr rwy’n teimlo’n sefydlog ac rwy’n gwneud yn dda iawn ar reoli fy iechyd meddwl. Fodd bynnag, rwy’n gwybod bod Llwybrau bob amser ar ben arall y ffôn ac mae hynny wedi bod o gymorth mawr i mi.

Rwyf nawr yn helpu eraill sy’n mynd trwy broblemau tebyg i’r rhai rwyf i wedi cael profiad ohonyn nhw yn y gorffennol. Mae’n werth chweil gwybod y gallaf wella bywydau a chynnig cyngor i’r rhai sydd ei angen.

Rwy’n argymell yn arw, os ydych chi’n cael amser anodd gyda’ch iechyd meddwl a’ch llesiant, mae’n bwysig i chi estyn allan at bobl y gallwch ymddiried ynddyn nhw a siarad gyda nhw, yn ogystal â mudiadau fel Platfform [Gofal gynt], gan na fydd neb yn eich beirniadu am yr hyn rydych chi’n mynd drwyddo.

Os ydych chi’n cael amser anodd gyda’ch iechyd meddwl a’ch llesiant, mae’n bwysig i chi estyn allan at bobl y gallwch ymddiried ynddyn nhw a siarad gyda nhw, yn ogystal â mudiadau fel Platfform, gan na fydd neb yn eich beirniadu am yr hyn rydych chi’n mynd drwyddo