HomeLlesStoriâuStori Juliett

Stori Juliett

Sut gwnaeth ymwybyddiaeth ofalgar drawsnewid fy ffordd o fyw

Pan wnes i gysylltu â Gofal yn gyntaf, daeth dwy fenyw annwyl i fy ngweld. Roeddwn i’n meddwl mai dim ond am fy hanes cyflogaeth roedden nhw eisiau clywed, ond roedden nhw yno dim ond i wrando arna i

Fe ddois i Platfform ar ôl mynychu Therapi Ymddygiad Dilechdidol (Dialectical Behaviour Therapy/DBT) a chwrs ymwybyddiaeth ofalgar 12 wythnos a argymhellodd fy seicolegydd.

Yn ystod sesiwn, codais daflen yn egluro’r gefnogaeth mae Platfform yn ei gynnig a phenderfynais gysylltu â nhw i ddysgu mwy am sut gallai’r elusen fy helpu i deimlo’n barod ar gyfer gwaith, gyda threfn a fyddai’n gweddu i fy ymagwedd newydd at fywyd a llesiant.

Mae fy iechyd meddwl wedi bod i fyny ac i lawr drwy gydol fy mywyd.

Roeddwn wedi cael diagnosis o anhwylder deubegynol ond cymerodd amser hir i mi ddeall pam roeddwn i’n teimlo fel dau berson gwahanol. Ond wnes i ddim sylweddoli mod i mewn trallod tan wnaeth fy ngŵr awgrymu i mi siarad gyda rhywun proffesiynol, a bod nifer o ddigwyddiadau yn fy mywyd a oedd wedi arwain at gael pyliau o hwyliau uchel iawn ac isel iawn.

Wrth dyfu i fyny fel plentyn mewn perthynas dreisgar, roeddwn i’n teimlo fel targed ac yn teimlo’n unig, profiad a gymerodd tan yn hwyr yn fy ugeiniau i mi ei brosesu o ddifrif.

Flynyddoedd yn ddiweddarach, ar ôl methu beichiogi, fe wnes i ddarganfod bod gen i Syndrom Ofari Polygodennog. Fe gefais lawdriniaeth a meddyginiaeth i fy helpu i gael plant; fodd bynnag, roedd y feddyginiaeth hon achosi cyfnodau o iselder.

Ar ôl dioddef sawl camesgoriad, mae gen i a fy ngŵr, Dave, ddwy o ferched erbyn hyn. Fodd bynnag, er gwaethaf yr hapusrwydd o gael plant, daeth hyn â heriau i’w wynebu hefyd, fel iselder ar ôl geni, ac fe gymerodd saith mlynedd i mi gael diagnosis a chefnogaeth.

Yn dilyn hynny, cefais newid mawr arall wrth symud gyda fy nheulu o Awstralia i Gymru pan roedd fy merch hynaf yn ddim ond tair oed. Roedd yn gyfnod unig a blinedig wrth i mi fagu dau o blant ifanc, mewn gwlad newydd, gyda fy mhartner yn gweithio oddi cartref yn ystod yr wythnos.

Roeddwn i eisiau “grymuso fy hun i wella”.

Yn dilyn dirywiad yn fy iechyd meddwl a phrofiad negyddol ar ward iechyd meddwl, roedd gen i gymhelliant i deimlo’n well er fy mwyn fy hun. Fe wnes i sylweddoli nad oedd meddyginiaeth yn gwneud digon i fy helpu i deimlo’n dda, ac roeddwn eisiau gwneud rhywbeth fyddai’n rhoi’r adnoddau i mi helpu fy hun o ddydd i ddydd.

Dechreuais ddysgu am ymwybyddiaeth ofalgar i fy helpu i gymryd saib a chanolbwyntio ar y pethau pwysicaf. Ynghyd â chymryd amser i werthfawrogi’r pethau bychain bob dydd sy’n gwneud bywyd yn braf, fel y byd natur o fy amgylch, fe wnes i fabwysiadu dau gi hefyd, sy’n rhoi gymaint o hapusrwydd a chwmnïaeth i mi.

Creu ffordd fwy tawel o fyw i gefnogi fy llesiant meddyliol

Sylweddolais fy mod angen newid fy ffordd o fyw. Ar ôl rhedeg busnes gyda throsiant o $60 miliwn, ynghyd ag ymdopi â thrafferthion personol, gwyddwn nad oeddwn i’n gallu cynnal y ffordd honno o fyw ynghyd â fy iechyd.

Rwyf nawr yn canolbwyntio ar greu amser i wneud y pethau rwyf wedi bod eisiau eu gwneud, fel helpu eraill i fyw bywyd boddhaus. Rwyf wedi gwneud hyn trwy ildio’r hyn oeddwn i’n arfer bod, a chofleidio’r hyn rwyf am fod.

Trwy gefnogaeth Platfform, rwyf wedi dechrau gwirfoddoli gyda rhaglen person i berson citizenship, ac yn y rhaglen hon, rwy’n eirioli dros bobl gydag anawsterau dysgu.
Mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i mi. Mae’n rhoi’r fath hapusrwydd i mi.

Yn ddiweddar, rwyf hefyd wedi ymuno â phwyllgor Addysg Oedolion Cymru ac wedi dod yn eiriolwr iechyd meddwl dros eraill, i wneud yn siŵr bod eu lleisiau’n cael eu clywed.

Trwy wneud y gwaith hwn, rwyf wedi darganfod pwrpas newydd i fy mywyd a hyder sy’n fy helpu pan fydda i’n teimlo mod i’n suddo i iselder.

Does dim byd gwell na dysgu cyfoedion i helpu gyda fy iechyd meddwl.

 

Does gen i ddim ofn bellach

Rwyf wedi cofleidio newid yn fy mywyd sy’n fy helpu i deimlo’n well bob dydd. Nawr, rwy’n canolbwyntio llai ar ennill pres a mwy ar wneud y pethau y mae gennyf ddiddordeb ynddyn nhw a phethau sy’n helpu pobl eraill.

Rwy’n argymell bod eraill sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl yn dysgu sut gall byw gydag ymwybyddiaeth ofalgar ddarparu’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i ymdrin â heriau.

Rwy’n gwybod nad oes gen i ofn bellach, oherwydd y newidiadau rwy’n eu gwneud yn fy mywyd. Rwy’n gwybod bydd y cyfnodau tywyll yn dod i ben a bod golau ym mhen draw’r twnnel bob amser.

Er bod bywyd yn gallu bod yn anodd o hyd, rwy’n teimlo mod i’n rhedeg tuag at rywbeth, nid oddi wrtho.

Mae canolbwyntio ar gael ymwybyddiaeth ofalgar bob dydd pan fo’n bosibl wedi fy helpu i fyw bywyd boddhaus. Mae dysgu sut i helpu chi’ch hunan, yn ogystal â helpu eraill, mor bwysig yn ystod cyfnodau tywyll