Embrace

Gan dynnu ar y gwaith presennol gan yr Hwb ACES, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a mudiadau lleol eraill sy’n ystyriol o drawma, ffocws y prosiect peilot hwn oedd archwilio sut i gael ymwybyddiaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (adverse childhood experiences/ACE) i symud i fod yn ymarfer a gweithredu ar lefel leol iawn, law yn llaw â phreswylwyr a rhanddeiliaid allweddol y gymdogaeth.

Y nod oedd sefyll ochr yn ochr â thrigolion i ddeall gyda’n gilydd sut i gefnogi eu cymunedau i fod yn iach yn berthynol, yn ystyriol o adfyd a thrawma, wedi’u hysbrydoli ac yn iacháu.

Y nod oedd profi model ar gyfer gwella iechyd meddwl cymunedol drwy rannu gwybodaeth seicogymdeithasol a chefnogi gwneud synnwyr o bethau, a chysylltiad cymunedol ochr yn ochr â chymunedau yn hytrach nag mewn lleoliadau clinigol.

Fe wnaeth y prosiect hwn dan arweiniad y gymuned weithio mewn partneriaeth â rhieni o’r ardal leol i archwilio sut y gallai perchnogaeth a chysylltiad cymunedol feithrin lles a gwydnwch. Nod y model oedd cefnogi rhieni i ddatblygu sgiliau i adrodd eu stori eu hunain, gwneud synnwyr o’u profiadau, ennyn gwybodaeth seicogymdeithasol i wella eu hiechyd meddwl a’u lles, yn ogystal â meithrin cysylltiadau a pherthnasoedd iach â’i gilydd.

“Mae Embrace i mi yn fy helpu i weld pethau mewn ffordd wahanol, mae’n caniatáu i mi agor fy nghalon a rhannu fy nhrawma mewn amgylchedd diogel a llawn dealltwriaeth, mae’n dangos i mi sut mae iechyd meddwl yn gweithio a sut y gallaf ei ddefnyddio wedyn i addasu i fy mywyd.”

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn